Clwb Caerdydd yn ymchwilio i honiadau am Craig Bellamy

craig bellamy

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn ymchwilio i gŵyn yn erbyn hyfforddwr y tîm dan-18, Craig Bellamy.

Yn ôl adroddiadau, mae rhieni chwaraewr ifanc wedi gwneud honiadau yn erbyn cyn-ymosodwr Cymru am ei ymddygiad tuag at eu mab, sydd bellach wedi gadael y clwb.

Wrth siarad â'r wasg ar ddiwedd gêm Caerdydd yn erbyn Spurs ddydd Mawrth dywedodd rheolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock, bod uwch swyddogion y clwb yn edrych i mewn i'r mater.

Y gred yw bod prif weithredwr y clwb, Ken Choo a'r cadeirydd Mehmet Dalman yn ystyried manylion y cwynion cyn penderfynu ar y camau nesaf.

Mae Bellamy - a enillodd 78 o gapiau dros Gymru - hefyd yn sylwebydd cyson ar Sky Sports.

Straeon perthnasol