'Uffern' bwlio 50 mlynedd yn ôl yn y coleg yn ysbrydoli cerdd heddiw

Mae cael ei bwlio tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth wedi ysgogi'r awdur Manon Rhys i gyhoeddi cerdd am ei phrofiad 50 mlynedd yn ddiweddarach.

Ac ar ôl cadw'n dawel cyhyd am ei anhapusrwydd yn y Coleg Ger y Lli, lle cafodd ei bwlio yn gorfforol a meddyliol am dair blynedd, roedd 'sgwennu'r gerdd yn brofiad cathartig iddi.

Image caption Manon Rhys yn ennill y Goron yn 2015

Yn y farddoniaeth mae hi'n dweud bod y cyfan wedi dechrau ar ei diwrnod cyntaf yn y coleg - yn syth ar ôl i'w mam ei gadael hi ar ben ei hun yn "uffern" Neuadd Alexandra.

A thra roedd pawb arall yn mwynhau cyfnod y coleg ddiwedd yr 1960au roedd hi'n profi "unigrwydd, anhapusrwydd lan yn Aber, Aber, Aber."

Bu'r llenor - enillydd y Goron yn 2015 a'r Fedal Ryddiaith yn 2011 - yn sôn am ei phrofiad ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru wrth drafod ei chyfrol Stafell Fy Haul.

"Fi'n fodlon cyfadde' - ac un o'r pethau anodd ynglŷn â rhywun sy'n cael ei fwlio neu eu bwlio ydi cyfadde' ac mae wedi cymryd faint, deugain mlynedd? - i fi gyfadde mod i wedi cael fy mwlio yn y coleg, achos chi eisiau bod fel pawb arall.

"Mae pawb arall yn hapus a chi ddim yn sylweddoli eich bod chi'n wahanol, ac os odych chi'n sylweddoli hynny chi ddim eisiau cyfadde'. Roeddwn i'n benderfynol o 'sgwennu hwn."

Image copyright Barddas

Yn y gyfrol, mae'r gerdd yn rhan o adran 'Cwlwm Bwlio' sy'n trin gwahanol adegau o fwlio.

Mae 'Ymddiheuro' ar ffurf llythyr sy'n procio cof a chydwybod y ferch fu'n ei bwlio hi'r holl flynyddoedd yn ôl.

Mae'r awdur yn ysgrifennu ei bod yn "...cofio watsio dy bensil slei di'n difa 'ngwaith i. Orie o gopïo nodiade - a'r cwbwl yn wast."

Mae hi hefyd yn sôn bod y bwli wedi "cico'n ddigon caled i greu clais" a "rhacso 'ngwely i. Gwasgaru dillad, ffeils a llyfre, llun Tryweryn - popeth wedi'i dowlu ar y llawr".

Catharsis

Dywedodd Manon Rhys ei bod wedi elwa'n emosiynol o 'sgwennu'r gerdd.

"Roedd yn gatharsis - o ni'n teimlo'n well, llawer gwell.

"Nid ar chwarae bach nes i ei chynnwys hi. Mae hi wedi bod ar ryw ddarn o bapur yn rhywle neu yn fy nghyfrifiadur neu lle bynnag yn cuddio ac o ni'n meddwl 'na, dwi eisiau i'r person yma wybod mod i'n cofio a gobeithio ei bod hi'n cofio'.

"Rhyw lythyr bach, rhyw nodyn bach ydi e, falle yn gofyn iddi ymddiheuro."

Ychwanegodd nad ydi hi wedi cael ymateb i'r gerdd gan y person fu'n ei bwlio - ac nad ydi hi'n gwybod pam gafodd hi ei thargedu.

"Mae bwlis yn pigo ar rywun, maen nhw'n gweld gwendid yn dydyn nhw - dwi wedi meddwl a meddwl pam, ond dwi ddim yn gwybod. Efallai bod rhywbeth yn fy nghymeriad doedd hi ddim yn licio - mae hynny'n ddigon posib, dwi ddim yn gwybod.

"Efallai bod hi'n gweld bod eisiau rhyw 'gosb' arna i dwi, ddim yn gwybod. Ond o leia' dwi wedi ei sgwennu fo nawr."

Mae'r gerdd yn gorffen gyda'r ddwy linell:

"A chofia hyn, weda i ddim gair.

Dim ond edrych mla'n at ga'l d'ymateb."

Anian y bwli

Ychwanegodd Manon Rhys wrth Cymru Fyw: "Mae anian bwli yn 'rhoi'r hawl' iddo fo neu hi dargedu unrhyw un, unrhyw adeg o'u bywydau.

"Yn fy achos i, yn ystod fy nhair blynedd yng Ngholeg Aberystwyth y digwyddodd - cyfnod a ddylai fod yn hapus.

"Ni phrofais ddim tebyg na chynt na wedyn.

"Mae'n bwysig nodi bod y sawl a gaiff ei b/fwlio yn cadw'n dawel yn hytrach na chyfadde ei '[g]wendid'."


Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig