Y Bencampwriaeth: Preston North End 1-1 Abertawe

Cyhoeddwyd
Wayne Routledge of Swansea is tackled by Daniel Johnson of Preston North End and Tom Clarke of Preston North EndFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Wayne Routledge yn chwarae am y 10fed tro i Abertawe y tymor hwn

Syrthio un safle yn y tabl wnaeth Abertawe a Preston brynhawn Sadwrn wedi gêm gyfartal yn Preston.

Prin iawn oedd y cyfleon yn yr hanner cyntaf mewn gêm lled gyfartal er mai Abertawe a gafodd y cyfleoedd gorau. Roedd hi'n ddi-sgôr ar ôl 45 munud.

Ond dechreuodd Abertawe yr ail hanner gyda brwdfrydedd mawr a chafwyd symudiadau hyfryd gan yr Elyrch - diwedd un o'r symudiadau hynny rhwng Routledge a Celina roddodd gyfle i Courtney Baker-Richardson roi ergyd troed dde i ganol y gôl.

Roedd hi'n ymddangos fod y gêm ar fin newid ond byr fu llawenydd Abertawe - llawiodd Connor Roberts y bêl yn y blwch cosbi a chafodd Preston gic o'r smotyn.

Gyda naw munud yn weddill aeth Preston i lawr i ddeg dyn wedi i Joshua Earl gael ail gerdyn melyn, ond ni lwyddodd yr Elyrch i fanteisio ar hynny.

Er i'r ddau dîm bwyso yn drwm parhau yn gyfartal wnaeth hi yn Preston.

Mae Abertawe yn syrthio i'r trydydd safle ar ddeg yn y Bencampwriaeth ond wedi lleihau y bwlch rhyngddynt â'r timau y safle ail gyfle i chwe phwynt.