Hitachi yn atal gwaith ar atomfa Wylfa Newydd

Wylfa Newydd Image copyright Horizon

Mae datblygwyr atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi atal yr holl waith ar y cynllun, yn dilyn cyfarfod o'r bwrdd.

Daw'r penderfyniad gan gwmni Hitachi, sydd wedi methu dod i gytundeb ariannol ar y cynllun £12bn.

Roedd disgwyl i 9,000 o weithwyr adeiladu'r atomfa, ac i gannoedd o swyddi parhaol gael eu creu, pe bai'r safle'n weithredol erbyn canol y 2020au.

Dywedodd is-gwmni Hitachi, Horizon, y byddan nhw'n "cadw'r opsiwn i ailgydio yn y datblygiad yn y dyfodol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cyhoeddiad yn "siomedig a phryderus" tra bod Ysgrifennydd Cymru'n dweud nad yw'n "golygu diwedd ar gyfer cyfleoedd yn Wylfa".

'Methu bodloni pawb'

Mewn datganiad, dywedodd Horizon y byddai'n "atal ei raglen i ddatblygu gorsafoedd niwclear yn y DU" yn dilyn penderfyniad Hitachi.

Dywedodd Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Pŵer Niwclear Horizon: "Rydyn ni wedi dod yn ein blaenau'n dda ar bob agwedd o ddatblygiad y prosiect, gan gynnwys dyluniad y DU o'n hadweithydd a oedd wedi cael ei brofi, datblygu'r gadwyn gyflenwi ac yn enwedig adeiladu sefydliad galluog iawn o bobl dalentog ac ymrwymedig."

Ond ychwanegodd nad ydy'r cwmni wedi gallu "dod i gytundeb sy'n bodloni pawb dan sylw" ar yr ochr ariannol, "er gwaethaf ymdrechion gorau pawb a fu'n ymwneud â'r gwaith".

"O ganlyniad byddwn yn atal y gwaith o ddatblygu prosiect Wylfa Newydd, yn ogystal â'r gwaith sy'n ymwneud ag Oldbury, nes bydd modd dod o hyd i ateb.

"Yn y cyfamser, byddwn yn cymryd camau i leihau ein presenoldeb ond byddwn yn cadw'r opsiwn i ailgydio yn y datblygiad yn y dyfodol."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae penderfyniad Hitachi yn "siomedig" yn ôl Richard Foxhall o Horizon

Roedd Llywodraeth y DU wedi cytuno i ariannu dwy ran o dair o gost y cynllun, ond mae Hitachi wedi cael trafferth sicrhau buddsoddiad ar gyfer gweddill y gost.

Mewn datganiad i Dŷ'r Cyffredin, dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Greg Clark eu bod hefyd wedi cynnig gwarantu pris o hyd at £75 megawat yr awr ar gyfer yr ynni.

Ond dywedodd y gweinidog bod ynni adnewyddol wedi gostwng mewn pris yn y blynyddoedd diwethaf, gan gyfrannu at "gryfder ein marchnad ynni".

"Mae gan niwclear rhan bwysig i'w chwarae fel rhan o gymysgedd ynni amrywiol, ond mae'n rhaid i'r pris hwnnw fod yn un teg i dalwyr biliau trydan a threthdalwyr," meddai.

Daw'r cyhoeddiad wedi misoedd o ddyfalu bod y prosiect dan fygythiad.

Dywedodd AS Llafur Ynys Môn, Albert Owen bod yn "rhaid i bawb ddod at ei gilydd rŵan a chadw'r prosiect i fynd", ond mai Llywodraeth y DU yn unig sydd mewn sefyllfa i roi'r sicrwydd y mae datblygwyr ei angen cyn buddsoddi.

Ychwanegodd Mr Owen bod y sefyllfa, fel methiant Morlyn Bae Abertawe, yn arwydd nad ydy'r ffyrdd arferol o ariannu prosiectau uchelgeisiol o'r fath yn gweithio bellach, sy'n egluro pam fod hi'n anodd sicrhau buddsoddiad gan ddatblygwyr.

'Nid dyma'r diwedd'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn parhau i gredu y byddai datblygiad niwclear yng ngogledd Cymru er gwaethaf cyhoeddiad Hitachi.

"Rydw i'n hyderus y bydd prosiect niwclear newydd ar y safle rywbryd, ond bydd oedi am ychydig o flynyddoedd," meddai.

Dywedodd fod Llywodraeth y DU yn hyderus y byddai buddsoddwyr preifat yn gallu cael eu canfod er mwyn cynorthwyo'r cynllun.

Fe wnaeth hefyd wadu adroddiadau nad oedd Theresa May a phrif weinidog Japan, Shinzo Abe wedi trafod y mater yn eu cyfarfod yn Downing Street yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, bod y cyhoeddiad yn "siomedig a phryderus i Ynys Môn, gogledd Cymru a'r DU".

Ychwanegodd bod angen "parhau gyda'r momentwm ynghylch y prosesau statudol" os ydy'r cynllun am gael ei wireddu, gan ddweud y byddai'n "parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU".

Mae'n rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU ymateb ar frys i gyhoeddiad Hitachi yn ôl AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar sut i symud yn ein blaenau wedi'r cyhoeddiad," meddai.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddangos eu bod nhw o ddifrif am gefnogi Wylfa. Nid yw eu gweithredoedd hyd yn hyn wedi arwain at rhyw lawer."

Mae grŵp ymgyrchu PAWB (Pobl Atal Wylfa B) wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn "ryddhad i bob un ohonom sy'n poeni am ddyfodol ein hynys, ein gwlad, ein hiaith, yr amgylchedd ac yn wir am ynni adnewyddadwy".

"Rhybuddiodd PAWB ers blynyddoedd fod y costau ynglŷn â phrosiect Wylfa yn debygol o fod yn faen tramgwydd angheuol i'r prosiect, ond cawsom ein hanwybyddu," meddai'r ymgyrchwyr mewn datganiad.

"Gwaddol hyn yw fod dros ddegawd wedi ei wastraffu ar Wylfa, ac ychydig iawn o gynllunio economaidd amgen wedi digwydd."

Ychwanegodd Robat Idris, llefarydd ar ran y mudiad, fod y newyddion ddydd Iau yn gyfle i Ynys Môn "adael gwallgofrwydd niwclear tu ôl iddo fo".

"Dwi heb glywed dim un gwleidydd yn ymddiheuro i bobl ifanc. Maen nhw wedi cael eu camarwain," meddai ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru.

"Yn lle dilyn rhyw freuddwyd ffôl, dylen ni gynllunio ar gyfer dyfodol lle gellir defnyddio sgiliau pobl ifanc yr ynys."

'Coblyn o glec'

Ond bydd y penderfyniad yn "goblyn o glec i bobl yn yr ardal" yn ôl cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadrig, Derec Owen.

"Gyda Wylfa mi fuasai o wedi creu 800 o swyddi. Lle arall gewch chi 800 o swyddi yng ngogledd Môn neu ogledd Cymru?

"Mae hwn yn un o gynlluniau mwyaf gorllewin Ewrop. Mae'n bryd i'r llywodraeth ymyrryd."

Wrth fynegi "siom a phryder dwys" wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, ei bod yn dal yn ffyddiog y gall Hitachi ddod i gytundeb gyda llywodraethau'r DU a Japan er mwyn symud ymlaen.

Bydd y cyngor, meddai, yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU "i sicrhau bod yr oediad yma'n cael ei oresgyn fel ein bod yn llwyddo i greu'r swyddi o safon a'r cyfleoedd i fusnesau, sydd wir eu hangen, am flynyddoedd i ddod."

Yn sgil y cyhoeddiad, mae'r Grid Cenedlaethol hefyd wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n parhau gyda chynllun i godi rhwydwaith o beilonau 20 milltir o hyd ar yr ynys.

Dywedodd llefarydd bod y cynllun hwnnw hefyd wedi ei atal, ac y byddai "ond yn cael ei ddatblygu os oes angen".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol