Gorymdaith yn erbyn dymchwel Cilgant Guildford a Gwdihŵ

Cyhoeddwyd
protest
Disgrifiad o’r llun,
Roedd adroddiadau bod tua 1,000 o bobl wedi ymuno erbyn diwedd yr orymdaith

Mae perchnogion adeiladau ar stryd adnabyddus yng Nghaerdydd wedi cytuno i oedi eu cynlluniau i ddymchwel y safle, wedi cyfarfod gyda'r cyngor.

Daeth y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2018 fod perchnogion Cilgant Guildford, lle mae'r bar poblogaidd Gwdihŵ, yn bwriadu dymchwel y safle.

Ond yn ôl Cyngor Caerdydd mae'r perchnogion wedi cytuno i oedi eu cynlluniau yn dilyn trafodaethau gydag Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas.

Er gwaetha'r newyddion am oedi'r dymchwel, cafodd gorymdaith ei chynnal ddydd Sadwrn er mwyn ceisio atal y cynllun yn gyfan gwbl.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd disgwyl i Gwdihŵ orfod gadael yr adeilad ar Gilgant Guildford erbyn 30 Ionawr

Cafodd yr orymdaith ei threfnu ar ôl i nifer fynegi eu siom gyda'r cynllun i ddymchwel y bar poblogaidd ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd Nia Williams, un o'r rhai sy'n ymgyrchu i atal y dymchwel, y byddai hi'n "drychineb" petai'r adeiladau yn diflannu.

"Mae Gwdihŵ yn rhoi llwyfan i gerddorion ifanc a sawl un arall sydd yn ddechrau eu gyrfa yn y diwydiant," meddai.

Ychwanegodd: "Nid yw oedi am dri mis yn golygu eu bod nhw'n saff."

Roedd adroddiadau bod tua 1,000 o bobl wedi ymuno erbyn diwedd yr orymdaith.

Disgrifiad,
Byddai dymchwel Cilgant Guildford yn "drychineb"

'Cadw, datblygu ac arbed'

Roedd disgwyl i'r stryd, sydd hefyd yn cynnwys bwytai a busnesau eraill, gael ei ddymchwel eleni.

Roedd y penderfyniad wedi denu ymateb chwyrn gan lawer, sy'n gweld Gwdihŵ a'r ardal yn rhan bwysig o ddiwylliant a hanes Caerdydd.

Dywedodd y cyngor bod yr ardal bellach yn rhan o gynllun datblygu sydd dan ystyriaeth a fyddai'n gweld Cilgant Guildford yn cael ei adfywio.

Dywedodd llefarydd mai'r gobaith fyddai "cadw, datblygu ac arbed [yr ardal] ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Huw Thomas y bydd yr ardal o dan ystyriaeth adfywio a datblygu

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, fod y perchnogion wedi "cytuno i oedi wrth i ystyriaeth datblygu gael ei roi i'r ardal".

"Yn ystod y broses fe wnes i annog y perchnogion i ailfeddwl y penderfyniad wrth i drafodaethau dechrau ar ddyfodol y safle.

"Mae creu ardal gadwraeth yn rhywbeth unigryw. Mae rhaid gwneud y penderfyniad ar sail y gwerth hanesyddol a phensaernïol."

Bydd cyfnod asesu ac ymgynghori yn dechrau wrth i ddyfodol y safle gael ei benderfynu.