Cefnogwr Caerdydd yn ofni'r gwaethaf
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cefnogwr Caerdydd yn ofni'r gwaethaf am Emiliano Sala

22 Ionawr 2019 Diweddarwyd 17:07 GMT

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth bod ymosodwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, Emiliano Sala, ar awyren fechan sydd wedi diflannu wrth deithio i'r ddinas.

Dywedodd Tim Hartley, o Ymddiriedolwyr Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: "Daeth y newyddion fel sioc enfawr. Mewn achlysuron fel hyn mae pobl yn gwybod bod y gwaetha' siŵr o fod yn mynd i ddigwydd.

"Mae hyn yn drasiedi i Gaerdydd ac i Nantes, ac wrth gwrs i deulu'r gŵr bonheddig yma."

Dilynwch y diweddara' yma.