Toriadau'n 'ofid mawr' i bobl anabl a'u gofalwyr

Tommy a Jayne Newman
Image caption Mae Jayne Newman yn gofalu am ei brawd Tommy

Mae newidiadau i gefnogaeth ariannol ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr yn effeithio'n negyddol ar fywydau, yn ôl un ofalwraig.

Dywedodd Jayne Newman, o Gasnewydd, na chafodd reswm dros golli gwerth 15 awr o ofal ar gyfer ei brawd Tommy.

Yn ôl AS Wrecsam, Ian Lucas, mae'r newidiadau i'r cynllun Grant Byw'n Annibynnol Cymru (WILG) yn peri "gofid mawr".

Fodd bynnag, yn ôl Cyngor Casnewydd, mae Ms Newman yn derbyn pecyn cymorth "hael".

Torri cefnogaeth cannoedd

Cafodd WILG ei gyflwyno yng Nghymru yn lle Cronfa Byw'n Annibynnol y DU, a ddaeth i ben yn 2015.

Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb dros y grant a'r 1,300 o bobl sy'n ei dderbyn bellach yn nwylo'r 22 awdurdod lleol, ac mae nifer yn gofidio am doriadau posib.

Mae dros 100 o'r 600 cyntaf a gafodd eu hasesu gan eu cynghorau wedi gweld cwtogiadau i'w cymorth.

Image caption Yn ôl Jayne Newman mae'r lefel o ofal sydd angen ar ei brawd yn debyg i ofalu am fabi

Dywedodd Ms Newman, sy'n gofalu am ei brawd, nad oedd wedi cael rheswm dros dorri 15 awr yr wythnos o ofal, sydd gyfystyr â gofal dros nos a phump awr o ofal yn ystod y dydd.

"Mae angen gofal arno bob dydd, ac mae angen iddo gael ei olchi, ei wisgo a'i eillio," meddai.

"Mae e bellach ar ddiet o hylifau'n unig, sy'n golygu ei fod fel cael babi, mae'n rhaid i ni ei fwydo bob awr er mwyn cynnal ei bwysau a'i les."

"Cyn belled bod rhywun yno, dyw e ddim yn deall os mai fi neu un o'r gofalwyr sydd yno, felly dyw e ddim yn deall bod y toriadau yma wedi gwneud gwahaniaeth i 'mywyd i."

"Bydd rhaid i fi fod adre bob nos erbyn naw o'r gloch. A dwi dal eisiau bywyd, yn ogystal ag edrych ar ôl fy mrawd."

"Dywedon nhw y bydden nhw'n gweithio gyda chi ac na fyddai hyn yn digwydd, ac nid dyna be ddigwyddodd."

Image caption Mae Julie Morgan AC wedi ymgyrchu am newid i'r system yn y gorffennol

Cafodd y gweinidog oedd yn gyfrifol am ofalu am drosglwyddo'r WILG i ofal y cynghorau, sef Huw Irranca-Davies, ei ddiswyddo wedi i'r Prif Weinidog Mark Drakeford ail-drefnu ei gabinet.

Mae ei olynydd fel dirprwy weinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Julie Morgan, wedi bod ymhlith aelodau o'r Blaid Lafur sydd wedi galw am arolwg o'r polisi yn y gorffennol.

Yn ogystal, dywedodd Mr Drakeford yn ystod ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth y byddai'n gwneud newidiadau petai yna bobl yn colli allan.

Awdurdodau lleol 'dan bwysau'

Mae Ian Lucas, AS Wrecsam, wedi awgrymu y dylai'r rhai sydd wedi eu heffeithio ymgeisio am swm atodol gan Lywodraeth Cymru.

"Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni'n mynd i gael yr un cynllun ag oedd gennym o'r blaen, ond rwy'n disgwyl gwelliannau i'r cynllun presennol," meddai.

"Dwi'n meddwl ei fod yn achosi gofid mawr i bobl sydd angen help."

"Rydym yn gwybod bod yr awdurdodau lleol dan bwysau a dydw i ddim yn meddwi mai nhw yw'r bobl orau i ofalu am gynlluniau o'r fath."

Mae e-byst gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cael eu gweld gan Wales Live, yn dangos bod swyddogion y llywodraeth wedi cael gwybod gan "nifer" o gynghorau bod "cyfanswm cost y gefnogaeth sydd wedi ei ddarparu i bobl sydd wedi symud (i gael eu hariannu gan y cyngor) yn fwy na'r arian WILG sydd wedi ei symud (o Lywodraeth Cymru i'r cynghorau)."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r broses yn fanwl "er mwyn cyflawni'r canlyniad tecaf" i bawb.

"Mae'n hollbwysig nad yw gallu unigolyn i fyw'n annibynnol dan fygythiad yn sgil newidiadau yn y ffordd mae gofal a chefnogaeth yn cael ei drefnu i bobl a oedd yn derbyn WILG."

Ychwanegodd y llefarydd bod pob ceiniog o'r grant wedi ei throsglwyddo i'r cynghorau, ac nid yw wedi cael ei adfer er gwaetha'r nifer o bobl sy'n gymwys i'w dderbyn.

Straeon perthnasol