'Aethom yno fel teulu o bedwar, ond nôl yn dri'

SION A'I DAD Image copyright Sion Roe

Ym mis Awst 2006 aeth Siôn Roe ar wyliau gyda'i deulu i Dwrci. Roedd Siôn yno gyda'i rieni Perry a Siriol, a'i chwaer fawr, Lowri.

Ond daeth trychineb i'r teulu pan drodd y modur 4x4 roeddent yn teithio ynddo drosodd tra ar saffari yn ardal Saklikent.

Cafodd Siôn a'i fam anafiadau mawr ac roedd angen sawl llawdriniaeth arnynt. Ond bu farw Perry, tad Siôn, yn y ddamwain. Roedd yn 46 mlwydd oed.

Mae Siôn yn wreiddiol o Ynys Môn ond bellach yn astudio ffilmiau digidol yn y brifysgol yn Llundain. Mae'n bwriadu gwneud ffilm ddogfen o'r enw August 6th, a fydd yn adrodd hanes y ddamwain yr haf hwnnw, a sut mae wedi effeithio ar y teulu dros y blynyddoedd.

"Roeddwn yn 10 oed pan ddigwyddodd y ddamwain a effeithiodd ar fy nheulu cyfan," meddai Siôn.

"Aethom yno fel teulu o bedwar, ond nôl yn dri.

"Roedd o'n gyfnod hynod o anodd ac roedd rhaid i ni alw am gymorth gan ein holl deulu ehangach a ffrindiau."

Cafodd Lowri, a oedd yn 14 oed ar y pryd, anafiadau i'w hwyneb, ond fe ddychwelodd i Brydain tua mis wedi'r ddamwain. Mae hi bellach yn heddwas.

Image copyright Sion Roe
Image caption Sion gyda'i dad, Perry, a'i chwaer, Lowri

Bu farw Perry, a oedd yn gweithio i'r Swyddfa Dywydd, yn y fan a'r lle pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd gyrrwr y Jeep yn gweithio i'r cwmni teithio a oedd yn rhedeg y daith.

"Wedi'r ddamwain mi wnaeth fy mam gymryd rôl y ddau riant. Ond dwi 'rioed di teimlo dan unrhyw anfantais o fod efo dim ond un rhiant, ac mae'r teulu wedi fy nghefnogi ym mhopeth dwi 'di'i wneud," meddai Siôn.

'Mewn cariad' a chamerâu

"Dwi'n cofio mynd i weld Status Quo efo fy nhad pan o'n i'n fach ac o'n i'n chwarae'r gitâr.

"Tan ychydig flynyddoedd yn ôl o'n i am fod yn gerddor. Ond yna nes i ddisgyn mewn cariad gyda chamerâu, a gwnes i Lefel A mewn ffotograffiaeth a chyfryngau, ac yna 'mlaen i'r Brifysgol."

Mae'n well gan Siôn ffilmiau am straeon "go iawn" yn hytrach na ffuglen a dyna pam y dewisodd wneud ffilmiau dogfen.

Ar ôl siarad gyda chynhyrchydd ffilm penderfynodd y dylai ddechrau ei yrfa drwy wneud ffilm am rywbeth sy'n agos ato.

Image copyright Sion Roe
Image caption Roedd Perry yn gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd pan fu farw

Mae eisiau i'w ffilm fod yn fwy personol ac yn un sy'n delio ag emosiynau a galar.

"Fe wnaeth S4C raglen ychydig flynyddoedd yn ôl am yr hanes, ond mae'r hyn dwi am wneud yn gwbl wahanol," meddai.

"Dydi beth dwi am wneud ddim am ryw achos llys neu'n rhaglen sy'n gwneud i bobl i ailfeddwl am fynd i wledydd tramor - dwi ddim eisiau chwalu diwydiant twristiaeth nunlle.

"Mae'r rhaglen yn rhoi'r darlun o rywun ifanc iawn na wnaeth alaru'n iawn, gan mai 10 oed oedden nhw, ond yn hytrach sy'n mynd drwy'r broses yn 22 oed, gan drio deall yn iawn y digwyddiadau a oedd yn mynd 'mlaen tra roeddent yn tyfu fyny.

"Dwi'n gobeithio y galla' i ysbrydoli pobl i ddeall mai nid claddu eich teimladau yw'r ffordd orau i ddelio â phethau. Dwi eisiau i bobl feddwl 'efallai byddai'n well os fyswn i'n siarad am bethau mwy'.

"Dwi ddim yn ystyried bod unrhyw blentyn 10 yn deall eu hemosiynau yn iawn - dydyn nhw ddim yn gallu prosesu yn iawn beth maen nhw eisiau i ginio heb sôn am ddelio gyda marwolaeth.

"Dwi ddim wedi bod yn emosiynol am fy mhrofiadau, dydw i ddim yn dweud wrth bobl amdano a dwi'n osgoi'r peth.

"Doedd fy housemate ddim hyd yn oed yn gwybod nes i mi ddechrau'r ffilm. Mae pobl wedi cael sioc bod hyn wedi digwydd a fy mod i heb siarad am y peth.

'Perthynas bell gyda phobl'

"Falle bod hyn yn dangos bod gen i berthynas fwy pell gyda phobl gan fy mod i ddim yn berson agored - dwi'n gobeithio bydd gwneud y ffilm yma yn newid pethau.

"Bydd y ffilm yn cyffwrdd â iechyd meddwl hefyd. Dwi wedi bod yn lwcus i beidio dioddef yn bersonol, ond mae 'na lot o bobl fysa wedi gallu bod yn agored gyda'u profiadau os fyswn i wedi bod yn agored gyda nhw.

"Mae 'na o hyd y syniad y dylai dynion guddio eu hemosiynau er mwyn bod yn gryf ac yn 'ddyn y tŷ'. Ond mae angen i bawb allu siarad, pan 'da chi'n ystyried mai'r rheswm mwyaf dros farwolaethau dynion dan 45 yw hunanladdiad."

Image copyright Sion Roe
Image caption Mae Siôn bellach yn astudio yn Llundain

Mae Siôn wedi bod yn gweithio ar y ffilm ers tua chwe mis, gyda'r rhan gyntaf, a fydd wedi ei ffilmio yn y Deyrnas Unedig, wedi ei ariannu drwy arian torfol.

Bydd yr ail ran yn cael ei ffilmio yn Nhwrci lle ddigwyddodd y ddamwain ac mae'n ceisio ariannu'r rhan honno o'r prosiect ar hyn o bryd.

"Mi fydda' i'n cyfweld y doctoriaid a wnaeth y llawdriniaethau arnaf i a fy mam, a hefyd y cwmni twristiaeth a oedd yn rhedeg y daith aethon ni arno," meddai.

Cefnogaeth deulol

"Nes i ffonio fy mam, ac o'dd hi yn gefnogol iawn, gan ddweud bod o'n syniad da. Ond wrth gwrs mae'r teulu'n poeni ynglŷn â beth y gall hyn godi. Bydd o wastad yn anodd gwneud ffilm am rywbeth mor bersonol â hyn.

"Ond maen nhw'n deall bo' fi ddim just yn gwneud o i lusgo bobl drwyddo eto - mae neges ehangach, fydd gobeithio yn gallu helpu eraill sy'n mynd drwy brofiadau tebyg."


Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw

Pynciau Cysylltiedig