Pentrefwyr i ystyried codi £300,000 i gadw Tafarn Y Fic

Tafarn Fic Feliheli Image copyright Google
Image caption Mae trefnwyr y cyfarfod yn dweud y byddai'n dreuni petae'r pentref yn colli'r dafarn

Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Y Felinheli yng Ngwynedd nos Fawrth i drafod y posibilrwydd o droi'r dafarn leol, Tafarn y Fic yn un gymunedol.

Yn ôl trefnwyr y cyfarfod bydd rhaid codi "o gwmpas £300,000" o fewn ychydig fisoedd i'w phrynu, os fydd y gymuned yn penderfynu lansio menter swyddogol.

Fe benderfynnodd y perchennog presennol y llynedd i werthu'r dafarn.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Gwyn Roberts y byddai'n bechod gweld "tafarn o'r fath yn cael ei droi yn fflatiau" fel sydd wedi digwydd mewn sawl achos tebyg.

"Maen nhw'n ganolbwynt i'r gymuned," meddai. "Maen nhw'n bwysig i gynnal Cymreictod pentrefi o'r fath."

Image caption Roedd dros 100 yn y cyfarfod nos Fawrth

Cafodd cyfarfod nos Fawrth ei gynnal i asesu faint o ddiddordeb sydd yn y pentref mewn sefydlu menter gymunedol ac i drafod ffyrdd posib o ddatblygu'r adeilad.

Roedd y syniadau a gafodd eu crybwyll yn cynnwys creu ystafelloedd ar gyfer llety, clwb i'r henoed a chaffi yn ystod y dydd.

Dywedodd un arall o drefnwyr y cyfarfod, Huw Watkins y byddai angen creu system cyfranddaliadau, a fyddai'n rhoi cyfle i bobl i'w prynu am isafswm o £100.

Byddai'r cyfranddalwyr wedyn yn cael pleidlais ar ddyfodol digwyddiadau yn y dafarn.

'Dyma'r ffordd ymlaen'

Dros y blynyddoedd mae sawl tafarn wedi cael eu troi yn fentrau cymunedol, gan gynnwys Tafarn y Sinc yn Sir Benfro a'r Pengwern yn Llan Ffestiniog.

Yn ôl un o sylfaenwyr Y Pengwern, Sel Williams dyma fydd y dyfodol i nifer o dafarndai tebyg.

Image caption Roedd Sel Williams o dafarn gymundol Y Pengwern yn Llan Ffestiniog yn y cyfarfod i drafod eu profiad nhw

"Yn y Pengwern mae naw o bobl yn gweithio yna ac mae'n cynnig cyflogaeth mewn ardal sydd ei angen," meddai.

"Rŵan mae 'na gymaint o sôn [am dafarndai cymunedol] mae pobl yn gweld pa mor bwysig ydyn nhw. Rhaid iti bron iawn colli rhywbeth i weld ei werth o.

"Tydi tafarndai ddim fel oedden nhw ers talwm. Oedden nhw arfer fod yn llefydd i ddynion feddwi, ond bellach mae nhw'n llawer mwy cymdeithasol.

"Dwi'm yn gweld be 'di'r dewis arall. Mae 'na gymaint o dafarndai masnachol yn cau. Dyma'r ffordd ymlaen."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol