Hennessey wedi'i gyhuddo o wneud saliwt Natsïaidd honedig

Wayne Hennessey Image copyright Getty Images
Image caption Mae gan Wayne Hennessey tan 31 Ionawr i ymateb i'r cyhuddiad

Mae golwr Cymru a Crystal Palace, Wayne Hennessey wedi'i gyhuddo o dorri rheolau Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl gwneud saliwt Natsïaidd honedig.

Fe gafodd lluniau o Hennessey yn gwneud y saliwt honedig yn ystod pryd o fwyd gyda'i gyd-chwaraewyr eu rhoi ar Instagram chwaraewr arall Crystal Palace, Max Mayer o'r Almaen.

Dywedodd Hennessey, sy'n 31 oed ac sydd wedi ennill 81 o gapiau i Gymru, fod yr arwydd yn "gyd-ddigwyddiad llwyr".

Fe honnodd ei fod wedi "chwifio ei fraich a gweiddi ar y person oedd yn cymryd y llun i frysio" a rhoi ei law dros ei geg er mwyn "gwneud i'w lais gario," meddai.

Image copyright Twitter/Daniel Storey
Image caption Cafodd y llun ei rannu ar Twitter wedi iddo gael ei weld ar Instagram

Dywedodd Hennessey ar ei gyfrif Twitter yn fuan wedi'r digwyddiad bod y llun yn "gwneud iddi edrych fel fy mod yn gwneud math o salíwt sy'n gwbl anaddas".

"Fyddwn i fyth yn gwneud hynny ac mae unrhyw debygrwydd i ystum o'r fath yn gwbl ddamweiniol," meddai.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn honni fod Hennessey wedi torri rheolau sy'n ymwneud ag ymddygiad sarhaus ac anaddas sy'n dwyn anfri ar y gamp.

Maen nhw'n hefyd yn honni ei fod yn torri'r rheolau gan ei fod wedi cynnwys cyfeiriad at fath o hil, grefydd neu gread.

Mae ganddo tan 31 Ionawr i ymateb i'r cyhuddiad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol