'Bydden i ar goll' heb wasanaeth llyfrau
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Bydden i ar goll' heb wasanaeth cludo llyfrau i dai

24 Ionawr 2019 Diweddarwyd 06:57 GMT

Mae defnyddwyr gwasanaeth sy'n cludo llyfrau i gartrefi dros 200 o bobl yn Abertawe yn dweud y bydd colli'r gwasanaeth yn ergyd fawr.

Mae cyngor y ddinas yn ymgynghori ar eu cyllideb ar gyfer 2019-20, sy'n cynnwys cynnig i ddirwyn y gwasanaeth - sydd am ddim - i ben.

Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto, ond mae pensiynwyr yn annog yr awdurdod i ailystyried a pharhau â'r gwasanaeth "hollbwysig".

Dywedodd Heather Hopkin, 84 o Bontarddulais, y byddai hi "ar goll" heb y gwasanaeth.