Mwy o fanciau'n cau canghennau ym Môn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Mwy o fanciau'n cau canghennau ar Ynys Môn

23 Ionawr 2019 Diweddarwyd 21:39 GMT

Cyhoeddodd banc Santander ddydd Mercher bod bron i 150 o'u canghennau ym Mhrydain yn cau - un o'r rheiny yn Llangefni.

Gyda Barclays newydd gyhoeddi eu bod nhw'n gadael Caergybi, mae Ynys Môn yn cael ei tharo'n galetach na'r un ardal arall drwy Gymru.

Erbyn yr haf, bydd llai na 10 o fanciau o un pen o'r ynys i'r llall, fel y mae Dafydd Gwynn yn egluro.