Gŵyl Nôl a Mla'n Llangrannog i gymryd 'saib' am flwyddyn

Los Blancos Gŵyl Nôl a Mla'n Image copyright Lleucu Meinir
Image caption Los Blancos yn perfformio yn Ngŵyl Nôl a Mla'n 2018

Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth Nôl a Mla'n yn Llangrannog yn dweud na fydd y digwyddiad yn cael ei chynnal eleni.

Dywedodd yr ŵyl ar wefannau cymdeithasol eu bod wedi "penderfynu cael saib" a bod "croeso i chi ddod i Langrannog a joio unrhywbryd".

Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal am y 10fed tro y llynedd.

Mae'r ŵyl ger y traeth yn Llangrannog fel arfer yn cael ei chynnal ar benwythnos ar ddechrau mis Gorffennaf.

Dywedodd y trefnwyr: "Ni'n ddiolchgar tu hwnt am y gefnogaeth ym mhob ffordd dros y 10 mlynedd diwetha' ac am y cyfle i lwyfannu a chlywed rhai o fandiau mwya' ffantastig Cymru yn ein pentre' bach."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol