Apêl wedi gwrthdrawiad 'difrifol' yn Aberarth, Ceredigion

A487 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad i'r gogledd o bentref Aberarth

Mae Heddlu Dyfed-powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A487 yng Ngheredigion ddydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad i'r gogledd o bentref Aberarth am tua 07:55 ar 22 Ionawr.

Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty mewn "cyflwr difrifol", yn ôl yr heddlu.

Roedd y ffordd ar gau am rai oriau yn dilyn y digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig