'Buodd mam-gu farw ar y trên i Auschwitz'

Image caption Hede a Fred Pollak

Auchwitz: man lle perffeithiodd y Natsïaid y grefft o ladd, a man sy'n gyfystyr ag uffern ar y ddaear.

Man hefyd sydd ag arwyddocâd arbennig i un ffermwr o orllewin Cymru a hithe yn ddiwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr. Thema y diwrnod eleni yw Rhwygo o'u Cartref.

Cartref Tom Pollak yw fferm Brynmawr, ar gyrion pentre Ffarmers ger Llanbedr Pont Steffan. Ond mae gwreiddiau'r teulu yn gorwedd yn ddwfn yn nhir y Weriniaeth Tsiec.

Tom a Christine ei wraig
Image caption Tom a Christine ei wraig tu allan i gartre'r teulu ar y Nové Město, ym Mhrâg sy' nawr yn siop 'boutique' a 'pizzeria'

"Roedd dad-cu yn cael ei alw yn doctor free of charge achos ro'dd e byth yn hela biliau mas," meddai Tom.

Yn ogystal â thrin cleifion tlawd yn ddi-dal, roedd Alois Pollak hefyd yn ffrind i arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia Tomas Mazaryk, ac yn byw mewn cartre' oedd mewn gwirionedd yn fwy o balas yn Prâg... ond roedd newid ar droed.

Derbyn galwade ffôn am 3 y bore

Roedd y Natsïaid ar fin chwalu'r heddwch, gan feddiannu Prâg ym Mawrth 1939. Ac fel Tsieciad balch roedd mab Alois, Fred - tad Tom - am wneud popeth yn ei allu i atal yr Almaenwyr yn y dirgel, tra ar yr un pryd rhedeg ffarm fawr oedd yn cyflogi 40 o bobl.

"Ro'dd e yn gwitho hefyd fel skiing instructor ac ro'dd e'n mynd â bobl ar yr hyn oedd yn edrych fel rhyw fath o holidays, mynd â nhw lan i'r border a bant â nhw wedyn yn y gobaith o groesi i ddiogelwch", meddai Tom.

"Roedd e arfer derbyn galwade' ffôn am 3 o'r gloch bob bore gan Doreen Warriner. Ro'dd hi a bachan o'r enw Trevor Chadwick yn trefnu trenau i gael bobl mas o'r wlad cyn y bydde'r Germans yn eu dala nhw. Ro'dd hi'n ffonio nhad amser yna o'r bore achos ro'dd hi'n gwbod bydde'r Germans ddim yn gwrando mewn ar y ffôn."

Dal y tren ola' o Prâg

Er y risg anferthol, rhyngddyn nhw, fe lwyddodd yr unigolion yma, ynghyd â phobl fel Nicholas Winton, trefnydd y Kindertransport, i achub miloedd o dan drwynau'r Almaenwyr.

Llwyddodd y teulu, Fred, ei wraig Hede a'r plant Maggie a Charlie, i ddianc rhag yr awdurdodau. Teithio ar draws gwlad wedyn, cyn dal llong o borthladd yng ngogledd Gwlad Pwyl i ddociau Tilbury ger Llundain. Ond ar ôl dianc rhag ffasgwyr y cyfandir, roedd y British Union of Fascists i'w croesawu nhw yn Lloegr, yn ôl Tom.

"Meddyliwch, ar ôl trafaelu ar draws Ewrop, dala'r trên dwetha mas o Prâg a dal cwch wedyn i Lunden, pwy o'dd yna i roi croeso iddyn nhw o'dd blackshirts Oswald Mosley."

Y Pollakiaid
Image caption (o'r chwith) Tom, Hede, Fred, Maggie a Charlie Pollak

Dechrau ar fywyd gwell

Erbyn i'r rhyfel gychwyn ym Medi 1939 roedd y teulu yn byw yng Nghaint cyn symud wedyn i Sir Hampshire.

Ymhen amser fe ymunodd Fred Pollak â'r frigâd Tsiec oedd yn gweithio o fewn byddin Prydain gyda'r diben o darfu ar waith yr Almaenwyr ar y cyfandir. Cafodd swydd hefyd yn hyfforddi ffoaduriaid eraill ar dechnegau amaethu cyn cael swydd yn godro ar fferm yn y New Forest.

Erbyn dechrau Haf 1945 daeth y brwydro yn Ewrop i ben. Cafodd Fred Pollak gynnig swydd Gweinidog Amaeth Tsiecoslofacia ar ddiwedd y rhyfel - cynnig a oedd yn brawf o'i allu amaethyddol, ond cynnig a wrthododd. Cafodd y teulu hefyd gyfle i ymfudo i Ganada, Uruguay a hyd yn oed Rhodesia.

Ond roedd y teulu wedi magu gwreiddiau ym Mhrydain ac roedd galwad y pridd yn rhy gryf i Fred Pollak. Yn enwedig pan glywodd am bris tir ym mherfeddion cefn gwlad Cymru.

"Dath e i Gymru a helodd e bythefnos i rowndio tamed bach a dewis ffarm. Pan welodd e'r ffarm hyn odd e'n gwybod straight away taw fan hyn oedd e am ddod," meddai Tom.

Charlie a Fred ar fferm Brynmawr
Image caption Charlie a Fred ar fferm Brynmawr

Prynodd fferm Brynmawr union 70 mlynedd yn ôl i 'leni, ac yma bu Fred Pollack a'i wraig yn magu gwartheg, defaid, moch, ieir a hyd yn oed cwiningod. Roedd hyd yn oed yn dal i farchogaeth ei feic modur ymhell fewn i'w nawdegau. Bu farw yn 2000 yn 97 mlwydd oed.

Ffawd y teulu?

Ond beth ddigwyddodd i Ida, mam-gu Tom, a wrthododd adael Prâg adeg y rhyfel? Ar ôl blynyddoedd lawer, cafodd y teulu wybod ei ffawd, meddai Tom.

"Fe helodd y Germans hi i Auschwitz, ond fe aeth hi'n sâl ar y ffordd ac fe daflon nhw hi allan o'r cattle truck a fuodd hi farw yn yr eira. Ro'dd hi flynyddoedd wedyn pan dda'th nhad i wybod beth ddigwyddodd iddi hi."

Bydd Tom yn fythol ddiolchgar am yr aberth a'r risg enfawr a gymrodd Doreen Warriner wrth greu dogfennau ffug i helpu'r teulu Pollak i ddianc o Prâg i Wlad Pwyl ar y trên ola' allan wrth i gymylau'r rhyfel gronni.

"Ga'th hi bapurau iddo fe i ddianc o'r wlad drwy dwyllo taw nhad oedd ei mab hi ei hunan. Tase hynna heb ddigwydd a bod nhw heb ddala'r trên dwetha' mas, basen nhw wedi mynd i concentration camp hefyd siŵr o fod."

(Lluniau'r teulu drwy garedigrwydd Tom Pollak)

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig