Picasso, Piaf a'r Cymry ym Mharis

Efallai bod llygaid cefnogwyr rygbi Cymru ar Baris ar hyn o bryd, ond ar un cyfnod roedd llygaid y byd ar y ddinas wrth i artistiaid greu cynnwrf gyda'u celf beiddgar a'u ffordd anghonfensiynol o fyw.

Ac yng nghanol y rhialtwch gydag enwogion fel Picasso ac Edith Piaf ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf roedd nifer o Gymry - cyn iddyn nhw fod yn adnabyddus.

Felly i'r rhai sydd yn ddigon ffodus i fynd i Ffrainc ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 1 Chwefror dyma'r llefydd i ymweld â nhw (ar ôl cael digon o rygbi a chymdeithasu wrth gwrs) i gael blas ar fywyd y Cymry pan oedd Paris yn ei anterth.

Map high-res Paris

Nina Hamnett

Nina Hamnett Image copyright National Gallery of Art, Washington
Image caption Y ferch efo gwallt coch, gan Modigliani. Y Gymraes Nina Hamlett oedd y fodel

Efallai nad ydi'r enw yn adnabyddus i nifer ond mae ei hwyneb - a'i chorff - yn fyd-enwog.

Un o Ddinbych-y-pysgod oedd Nina Hamlett yn wreiddiol, ond ar ôl astudio celf yn Llundain aeth i Baris yn 1914 - ac yn syth i ganol bywyd anghonfensiynol yr artistiaid a'r llenorion yn ardal Montparnasse.

Ar ei noson gyntaf yng nghaffi La Rotonde fe gyfarfu ag Eidalwr, a dechrau modelu iddo.

Er iddo farw chwe blynedd yn ddiweddarach yn 35 oed, mae gwaith Amedeo Modigliani yn dal i ddenu pobl i orielau ar draws y byd hyd heddiw - a'r Gymraes wedi ei hanfarwoli ganddo ef ac artistiaid eraill.

Yn ôl yr hanesydd Russell Davies prif gelf Nina Hamnett oedd ei bywyd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cafodd Nina Hamnett ei hanfarwoli gan Modigliani (llun) yn ôl yr hanesydd Russell Davies

"Mae Nina Hamnett yn un o gymeriadau wirioneddol liwgar Cymru... Os welwch chi rai o luniau Modigliani, os welwch chi rai o'i nudes, bosib iawn mai corff Nina Hamnett 'y chi'n edrych arno ac roedd hi'n falch iawn i arddel y ffaith bod Modigliani wedi dweud mai hi oedd efo'r bronnau gorau yn Ewrop."

Ewch draw i'r Musée de L'Orangerie i weld gwaith yr artist o'r Eidal - ac efallai y gwelwch chi'r Gymraes.

La Rotonde Image copyright Yves Lorson
Image caption La Rotonde, y caffi lle wnaeth Modigliani a Nina Hamnett gyfarfod

Dim ond taith fer ar y métro ydi hi wedyn, draw i Boulevard du Montparnasse ar ochr arall y Seine, i gael diod yn yr union lefydd hynny lle roedd Modigliani a Nina Hamnett yn cymdeithasu ganrif yn ôl.

Gwen John

The Muse, Rodin Image copyright Till Niermann
Image caption Yr artist o Gymru Gwen John oedd y fodel i'r gwaith enwog yma gan Rodin

O ddilyn Boulevard du Montparnasse ar ei hyd tua'r gorllewin, mae cysylltiad arall â Chymru gerllaw.

Mae'r Musée Rodin wedi ei leoli yn hen gartref y cerflunydd enwog.

Ac mae unrhyw un fydd yn mynd yno i weld campwaith Augustus Rodin i'r artist James Whistler yn edrych ar Gymraes.

Oherwydd mai'r model ar gyfer y gwaith oedd yr artist o Gymru Gwen John, fu mewn carwriaeth gyda'r Ffrancwr am flynyddoedd wedi iddi symud i Baris yn 1904.

Torrwyd ei chalon gan Rodin, a bu hi fyw yn Ffrainc weddill ei hoes.

Augustus John

The Café Royal, London Image copyright William Orpen
Image caption Augustus John, yr artist o Gymru, ydi'r dyn efo'r barf yn y darlun yma gan William Orpen - sydd i'w weld yn y Musée D'Orsay, Paris

Roedd brawd Gwen John, Augustus John, yn cael ei adnabod fel Brenin Bohemia ac yn ymweld â Paris yn ystod y cyfnod. Roedd yn treulio amser gyda'i chwaer, ac yn yr orielau a'r bariau wrth gwrs.

Mae bosib cael blas o'r byd hwnnw o hyd drwy fynd draw i'r Musée D'Orsay i weld llun The Café Royal, London, cyrchfan arall boblogaidd i artistiaid y cyfnod.

Mae Augustus John i'w weld yn eistedd gyda'r arlunydd William Orpen yn y llun.

T.H. Parry-Williams

I unrhyw un sy'n ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg beth am fynd i'r union sinema lle gwelodd T.H. Parry Williams ffilm yn 1913, pan oedd yn astudio yn y Sorbonne.

Paris oedd canolbwynt y byd ffilm bryd hynny ac mewn llythyrau o'r ddinas tra roedd yn byw yno - yn rhif 5 Rue Honore Chevalier, lle gyfansoddodd ei awdl fuddugol Eryri - mae'r bardd yn sôn iddo weld ffilm yn y Cinema Escurial gerllaw.

Fe fuodd o hefyd mewn lleoliadau ychydig llai parchus, sef Café Olympia, a oedd yn neuadd bleser ar y pryd, a'r Moulin Rouge, lle ddechreuodd y Can-can. Mae'r tri lle yn agored heddiw.

Moulin Rouge Image copyright Nasreddine Nas'h
Image caption Y Moulin Rouge, sy'n gyrchfan i dwristiaid heddiw - a lle aeth T.H. Parry-Williams yn 1913

Aeth T.H. Parry-Williams hefyd i arddangosfa ddadleuol iawn a fyddai wedi agor ei lygaid i weithiau mwyaf avant-garde y cyfnod - y Salon d'Automne, yn y Grande Palace.

Yn ôl y Dr Angharad Price, yn ei llyfr, Ffarwél i Freiburg - Crwydriadau cynnar T.H. Parry-Williams, fe gafodd y profiad o weld y gelf fodern arloesol ddylanwad mawr ar y bardd ifanc ac arwain iddo greu 'Ciwbyddiaeth lenyddol'.

Ychwanega bod y sinema hefyd wedi dylanwadu arno a "gellid dadlau bod rhai o dechnegau'r bryddest y byddai'n ei chyfansoddi yn syth wedi gadael Paris yn ddyledus i'r ffilmiau cynnar hyn, eu technegau fade-out a fade-in, a'u saethiadau wide-pan."

Gwendoline Davies

Yn astudio yno yn yr un cyfnod oedd un o'r Cymry wnaeth fwy na neb i sicrhau bod cysylltiad Cymru gyda byd celf Paris y cyfnod yn parhau hyd heddiw - Gwendoline Davies.

Roedd hi'n astudio yn yr École Pratique des Hautes Études, yn adeilad y Sorbonne.

Y Sorbonne Image copyright Dinkum
Image caption Y Sorbonne

Hi a'i chwaer Margaret sydd i'w diolch am un o'r casgliadau gorau o waith celf y cyfnod - sydd nawr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Fe brynon nhw Rain-Auvers gan Van Gogh, er enghraifft, yn GaleriBernheim-Jeune yn 1920 am ddim ond £2,020, sydd gyfystyr â £80,000 heddiw.

Mae peintiadau Van Gough yn cael eu gwerthu am ddegau o filiynau o bunnoedd erbyn hyn.

Os am geisio cael bargen debyg, y newyddion drwg ydi bod yr oriel newydd gau - ond mae eraill o gwmpas yr un ardal, ger y Champs-Élysées.

Eluned Phillips

Roedd y llenor yn rhan o fywyd bohemaidd Paris yr 1930au, ac yn adnabod enwogion fel Maurice Chevalie a Picasso.

Fe welodd un o weithiau enwocaf Picasso, Guernica, cyn iddo ei gwblhau, â'r paent yn dal yn wlyb.

Roedd hi hefyd yn ffrindiau gyda'r gantores Édith Piaf ac yn cofio sefyll ar yr artist Jean Cocteau mewn camgymeriad, pan roedd yn cysgu ar y llawr yn fflat Piaf.

Mae un o'r fflatiau lle bu'r gantores Ffrengig yn byw ynddi nawr yn amgueddfa, ac mae ei bedd ym mynwent Père-Lachaise gerllaw.

Bedd Edith Piaf Image copyright Prewitt8
Image caption Bedd Edith Piaf, ym mynwent Père-Lachaise

Fe ysgrifennodd Eluned Phillips awdl i Edith Piaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1967 - ond cerdd arall wnaeth hi ei chyfansoddi i'r un gystadleuaeth ddaeth â'r Goron iddi.

Dywed iddi fod "yn lwcus drwy fy mywyd" i gael cyfarfod pobl mor ddiddorol.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
O archif Radio Cymru, Eluned Phillips sy'n cofio gweld Edith Piaf am y tro cyntaf

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw