Cofis yn edrych ymlaen at gêm fawr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cannoedd o'r Cofis yn edrych ymlaen at gêm fawr

26 Ionawr 2019 Diweddarwyd 09:52 GMT

Fe fydd dau hen elyn yn cwrdd ar y cae pêl-droed ddydd Sadwrn gyda disgwyl dros 2,300 o gefnogwyr fynychu'r gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.

Dydy Bangor a Chaernarfon heb gwrdd â'i gilydd mewn gem gystadleuol ers blynyddoedd gan fod y ddau glwb wedi profi newidiadau mawr yn ddiweddar o ran eu safle ym mhyramid pêl-droed Cymru.

Gyda phob tocyn gafodd ei roi i glwb Caernarfon wedi'i werthu, mae capten y Cofis, Nathan Craig yn dweud fod y chwaraewyr yn gwybod cymaint mae'r gêm yn ei olygu i bawb sy'n gysylltiedig â'r clwb.