Cefnogwyr Bangor yn 'ffyddiog'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cefnogwyr yn 'ffyddiog' cyn y gêm yn erbyn Caernarfon

26 Ionawr 2019 Diweddarwyd 09:51 GMT

Fe fydd dau hen elyn yn cwrdd ar y cae pêl-droed ddydd Sadwrn gyda disgwyl dros 2,300 o gefnogwyr fynychu'r gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru.

Dydy Bangor a Chaernarfon heb gwrdd â'i gilydd mewn gem gystadleuol ers blynyddoedd gan fod y ddau glwb wedi profi newidiadau mawr yn ddiweddar o ran eu safle ym mhyramid pêl-droed Cymru.

Er eu trafferthion diweddar, mae sawl cefnogwr Bangor yn ffyddiog "gallai unrhyw beth ddigwydd mewn gêm gwpan".