Heddlu wedi'i galw i ysgol uwchradd ym Mhowys

Ysgol Uwchradd Crucywel Image copyright Google
Image caption Fe gafodd swyddogion eu galw toc wedi 14:00 brynhawn Gwener i Ysgol Uwchradd Crucywel.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi ymateb i adroddiadau fod tri dyn wedi'u gweld ar gaeau ger ysgol ym Mhowys gydag arf posib yn eu meddiant.

Fe gafodd swyddogion eu galw toc wedi 14:00 brynhawn Gwener i Ysgol Uwchradd Crucywel.

Cadwyd y disgyblion y tu mewn i'r adeilad am gyfnod am resymau diogelwch.

Ar ôl i'r heddlu gyrraedd, fe gafodd tri dyn eu holi ac maen nhw'n cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad.

Mae'r tîm heddlu cymunedol wedi aros yn yr ardal, a bydd eu presenoldeb yn parhau'n amlwg nes bydd swyddogion wedi gorffen chwilio am ddarn o dystiolaeth bosib.

Pynciau Cysylltiedig