Pro14: Leinster 22-17 Scarlets

Rory O'Loughlin Image copyright INPHO/Tommy Dickson

Colli oedd hanes y Scarlets yn eu gem Pro14 oddi cartref yn erbyn Leinster yn Nulyn nos Wener.

Llwyddodd y mewnwr Kieran Hardy i greu argraff wrth dirio dau gais i'r Scarlets yn y gêm.

Daeth prif gyfleoedd yr ymwelwyr yn ail hanner y gêm gyda'r sgôr hanner amser yn Leinster 10-0 Scarlets.

Gydag ambell i gyfle wedi ei methu llwyddodd y Scarlets i frwydro yn ôl gyda Hardy yn sgorio ei ail gais yn y pum munud olaf.

Ond gydag amser yn drech y sgôr ar y chwiban olaf oedd Leinster 22-17 Scarlets.

Pynciau Cysylltiedig