Cwpan FA Lloegr: Abertawe 4-1 Gillingham

Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Oli McBurnie yn sgorio ei ail gôl i ddyblu mantais yr Elyrch

Mae Abertawe trwodd i bumed rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl trechu Gillingham o Adran Un yn Stadiwm Liberty.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl 10 munud, gydag Oli McBurnie yn penio croesiad Leroy Fer heibio i'r golwr Tomas Holy.

Ychwanegodd McBurnie ei ail cyn hanner amser, gan rwydo o du mewn i'r cwrt cosbi yn dilyn gwaith da gan Barrie McKay.

Daeth gobaith i'r ymwelwyr ar ddechrau'r ail hanner wrth i Josh Rees benio croesiad Mark Byrne i rwyd yr Elyrch.

Ond fe wnaeth y tîm cartref selio'r fuddugoliaeth yn yr 20 munud olaf, wrth i Bersant Celina sgorio gydag ergyd o 25 llath cyn i McKay rwydo pedwaredd gôl.