Cwpan FA Lloegr: Middlesbrough 1-1 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth gôl Matthew Dolan yn yr eiliadau olaf sicrhau gêm gyfartal i Gasnewydd

Fe wnaeth ymgyrch ardderchog Casnewydd yng Nghwpan FA Lloegr barhau wrth iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal yn Middlesbrough ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth yr ymwelwyr greu argraff yn yr hanner cyntaf, ond ni lwyddodd yr un tîm i ganfod y rhwyd.

Y tîm cartref aeth ar blaen ar ddechrau'r ail hanner, gyda pheniad Daniel Ayala yn curo'r golwr Nick Townsend.

Ond llwyddodd yr Alltudion i daro nôl yn eiliadau ola'r gêm gyda gôl gan Matthew Dolan.

Mae'r canlyniad yn golygu bydd yn rhaid i'r ddau dîm gwrdd unwaith eto yn Rodney Parade i benderfynu enw pwy fydd yn yr het ar gyfer y bumed rownd.