Pro14: Gleision 8-7 Connacht

Gleision Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth y Gleision amddiffyn yn gryf i sicrhau buddugoliaeth mewn gêm dynn yn erbyn Connacht ar Barc yr Arfau nos Sadwrn.

Er mai dim ond 13 chwaraewr oedd ganddyn nhw ar y cae ar y pryd, fe wnaeth cais gwych Owen Lane helpu'r tîm cartref tuag at fantais o 8-0 ar hanner amser.

Fe wnaeth Paul Boyle daro 'nôl i'r ymwelwyr yn y munudau olaf ond roedd hi'n rhy hwyr i dîm Andy Friend fynd ymlaen i'w hennill.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y tîm o'r brifddinas yn aros yn y pumed safle yn Adran A y Pro14, ond yn cau'r bwlch ar Connacht i ddau bwynt.

Pynciau Cysylltiedig