Pêl-law - y gêm genedlaethol 'goll'

Gêm 1906 Image copyright Cymdeithas Pêl-law Cymru
Image caption Daeth 1,200 o bobl i wylio gêm bencampwriaeth pêl-law yn Nelson yn 1906

Ar drothwy pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae'n bosib y bydd ambell un yn codi'r drafodaeth eto p'run ai rygbi neu bêl-droed yw gêm genedlaethol Cymru. Wel yr un o'r ddau mae'n debyg.

Bu Carolyn Hodges o wasg Y Lolfa yn siarad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru am "gêm genedlaethol goll Cymru", pêl-law.

Mae pêl-law yn gêm bwysig iawn yn hanes cymdeithasol Cymru meddai Carolyn ac yn ei anterth yn denu tyrfaoedd enfawr ar hyd a lled Cymru. Dyma gemau Uwchgynhrair neu Pro14 y canol oesoedd, meddai.

Erbyn heddiw, dim ond un cwrt pêl-law sydd ar ôl yng Nghymru a hynny yn Nelson, Cwm Rhymni, lle mae Kevin Dicks a'i gyfoedion yn dal i chwarae.

Cyn-löwr o Gwm Rhymni yw Kevin sydd wedi chwarae a dyfarnu gemau ers 50 mlynedd ac mae ffrwyth ei flynyddoedd o ymchwil i'r gamp i'w weld yn ei lyfr Handball: The story of Wales' first national sport.

Ymhell cyn i rygbi gael ei ddyfeisio yn 1823 a chyn i reolau pêl-droed gael eu gosod yn swyddogol yn 1848 hon oedd gêm fawr y werin yng Nghymru.

Gêm debyg i sboncen yw pêl-law, ond eich bod yn ei chwarae gyda'ch llaw yn hytrach na raced.

Mae'r bêl yn cael ei thaflu yn erbyn y wal ar gwrt traddodiadol sydd â thair wal.

Image caption Bob Braen a Kerry Wilde, dau gyn-bencampwr, yn chwarae ar y cwrt yn Nelson a godwyd yn yr 1860au

Landlord tafarn y Royal Oak wnaeth adeiladu'r cwrt yn Nelson er mwyn denu cwsmeriaid o'r Nelson Inn gerllaw, lle roedd cwrt arall.

Yn ôl Kevin Dicks mae hanes pêl-law yn Nelson yn mynd law yn llaw â hanes glo yn yr ardal ac fe grewyd y cwrt ar gyfer glowyr yr ardal a oedd yn difyrru eu hunain drwy gamblo a chwarae'r gêm yn erbyn ei gilydd.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn 2016 dywedodd Mr Dicks y byddai'n braf gweld y genhedlaeth iau yn dod oddi wrth eu teclynau ac yn ymuno â nhw yn y gêm draddodiadol ar fore Sul.

Mae gwefr amrwd i'w gael wrth chwarae gêm lle nad oes angen "dim ond pêl a wal" meddai'r cyn-bencampwr Kerry Wilde yn yr un clip fideo.

Image copyright Casgliad Howard Jones
Image caption Sgwad Cymru, Pencampwriaethau'r Byd yn Winnipeg 1997 - Kevin Dicks yw'r ail o'r dde yn y rhes gefn ac mae Kerry Wilde yn eistedd o'i flaen

Hanes y gêm

"Mae'n bosib ei fod wedi dod yma efo'r Rhufeiniaid," meddai Carolyn.

"Roedd gêm eithaf tebyg o'r enw expulsim ludere yn cael ei chwarae yn broffesiynol yn Rhufain.

"Yn y canoloesau roedd yn enfawr, yn enwedig yn y 1800au a'r 1900au. Roedd yn cael ei chwarae ledled Cymru. Mae tystiolaeth o gyrtiau neu gofnodion llys dros Gymru am bobl yn chwarae yn erbyn waliau yr eglwys."

Mae'r sôn cyntaf am y gêm yn gysylltiedig efo Cymru wedi ei gofnodi yn y nawfed ganrif yn y chwedl am ddraig goch y Brythoniaid yn brwydro yn erbyn draig wen y Sacsoniaid yn Ninas Emrys lle mae cyfeiriad at Ambrose, neu Emrys, yn chwarae pêl-law.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Carolyn Hodges sy'n olrhain hanes y gêm oedd yn arfer cael ei chwarae ym mhob cwr o Gymru.

Sgrifennodd Guto'r Glyn Gywydd y Bêl, yn canmol chwaraewr pêl-law Hywel ap Llywelyn Fychan yn y 15fed ganrif hefyd.

Ond fe ddaeth i gael ei gweld yn ddiweddarach fel gêm oedd yn creu problemau.

"Roedd lot fawr o reolau lleol yn erbyn y peth achos roedden nhw'n creu cymaint o ddifrod yn torri ffenestri a gwaith cerrig ar yr eglwysi," meddai Carolyn.

Oherwydd yr holl drafferth roedd yn ei greu roedd yn cael ei galw'n 'gêm y diawl' a phobl yn cael eu herlyn am ei chwarae er mwyn ceisio cael gwared o'r broblem.

Image copyright Casgliad Ceri Hughes
Image caption Lewis a Matthews yn erbyn Babbs a Jones, 1941

Un o'r rhai gafodd eu herlyn am chwarae oedd Rice Jones o'r Gelli Gaer yn 1584 wedi iddo chwarae ar wal allanol yr eglwys yn ystod y gwasanaeth a chafodd chwaraewyr yng Nghaerfyrddin oedd yn defnyddio'r fynwent eu rhoi mewn cyffion traed yn 1684.

Symud i'r tafarnau

Ar ôl y Diwygiad Methodstaidd yn y 18fed ganrif dechreuodd y boblogaeth symud i ffwrdd o'r eglwysi a thyfodd y gêm mewn cyrtiau wedi eu hadeiladu yn bwrpasol, fel arfer tu ôl i dafarnau, meddai Carolyn.

"Roedd gemau mawr yn cael eu trefnu gan berchnogion tafarnau efo gwobrau arian mawr," meddai

"Roedd pobl yn teithio o bell mewn dyddiau pan doedd dim ceir a trenau, roedd yn anodd teithio ond roedd fel Premiership neu Pro14 y cyfnod - roedd yn rili, rili mawr."

Image copyright Amgueddfa Werin Sain Ffagan
Image caption Wil o’r Wern, Pencampwr Tonypandy, gyda'i noddwyr, 1880

Roedd yfed cwrw yn mynd law yn llaw â'r gêm a llawer o arian i'w wneud drwy herio chwaraewyr neu gamblo.

Roedd gan y gamp enwau gwahanol dros Cymru: pêl-law, handball, chwarae pêl, tally, tennis a fives.

Mae'n sail i nifer fawr o'n gemau a'n chwaraeon cyfoes ni heddiw.

Image copyright Wikimediacommons

Yn nechrau'r 20fed ganrif, ac yn enwedig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daeth rygbi a phêl-droed yn llawer pwysicach, meddai Carolyn Hodges.

"Ond mae'n drist iawn achos roedd rhywbeth rili mawr yn hanes cymdeithasol Cymru a mae wedi mynd yn angof," ychwanegodd.

"Fasa' fo'n wych tasa' llyfr Kevin Dicks yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i drio'r gêm, gan ei bod hi wedi bod mor bwysig yn hanes y wlad."

Image caption Does angen "dim ond pêl a wal" i chwarae'r gêm

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig