Cwpan FA Lloegr: Casnewydd i wynebu Man City?

FA Cup

Croesawu Manchester City i Rodney Parade fydd gwobr Casnewydd ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr os allent guro Middlesbrough yn eu gêm ail chwarae yn y bedwaredd rownd.

Llwyddodd Casnewydd i sgorio gôl hwyr a sicrhau gêm gyfartal ddydd Sadwrn yn stadiwm Riverside, sy'n golygu y bydd rhaid chwarae eto ar Rodney Parade.

Ar ôl ennill o 4-1 yn erbyn Gillingham yn y bedwaredd rownd, mae Abertawe wedi sicrhau gêm gartref arall, y tro hwn yn erbyn Barnet neu Brentford.

Bydd gemau'r bumed rownd yn cael eu chwarae ar benwythnos 15-18 Chwefror.

Straeon perthnasol