Cyhoeddi gemau wyth olaf Cwpan Cymru

Cwpan Cymru Image copyright David Rawcliffe/CBDC

Mae'r enwau wedi eu tynnu o'r het ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan Cymru.

Bydd Llandudno sydd ar waelod Uwch Gynghrair Cymru gartref yn erbyn y Seintiau Newydd.

Ar ôl trechu Hwlffordd yn dilyn amser ychwanegol ddydd Sadwrn bydd Y Bala yn croesawu MET Caerdydd i Faes Tegid.

Bydd Y Barri yn wynebu'r tîm sydd isaf yn y gynghrair sy'n parhau i fod yn gwpan eleni sef Cambrian & Clydach.

Yn dilyn buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn eu gelynion ym Mangor yn y bedwaredd rownd, bydd Caernarfon yn croesawu deiliaid y gwpan, Cei Conna, i'r Oval.

Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 2/3 Mawrth.

Pynciau Cysylltiedig