Marwolaeth Cymro yn Cyprus: Pennu dyddiad achos llys

Charlie Birch Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Robert Birch, oedd yn cael ei adnabod fel Charlie, ei ladd ar wyliau ar Ynys Cyprus

Bydd dyn sydd wedi ei gyhuddo o ladd dyn 39 oed o Bowys mewn achos honedig o daro-a-ffoi yn Cyprus yn sefyll ei brawf ym mis Mawrth.

Cafodd Robert Birch - oedd yn cael ei nabod fel Charlie - ei daro gan gar pan oedd o'n cerdded ger Paphos yn oriau mân y bore fis Mehefin y llynedd.

Bu farw Mr Birch, oedd yn 39 oed ac o'r Trallwng, yn y fan a'r lle.

Mae'r diffynnydd 35 oed, Dimitrios Ilitzidis yn gwadu cyhuddiad o ddyn-laddiad ac mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ar 12 Mawrth.

Image copyright Marios Ignatiou
Image caption Cafodd car glas oedd ynghlwm â'r digwyddiad ei ddarganfod yn y môr

Cafodd dyn arall o'r Trallwng, William Pritchard ei anafu yn yr un digwyddiad wrth gerdded gyda Mr Birch tua 02:30 ar 24 Mehefin 2018.

Daeth yr heddlu o hyd i gar glas yn y môr yn Agios Georgios yn Pegeia.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol