Ail Adran Lloegr: Casnewydd 0-0 Port Vale

Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd hi'n noson rwystredig i Gasnewydd yn eu hymgyrch i gyrraedd silffoedd yr ail gyfle gyda gêm ddi-sgôr yn erbyn 10-dyn Port Vale.

Casnewydd gafodd y cyfloed gorau yn y gêm, ond roeddynt yn wastraffus.

Roedd y prif sgoriwr Jamille Matt yn euog o fethu cyfle nail ochr i'r egwyl.

Cafodd James Gibbons ei anfon o'r cae yn hwyr yn y gêm ar ôl trosedd yn erbyn Dan Butler.