'Trefniadau trochi Cymraeg i barhau heb newid'

Eluned Morgan

Mae'r Gweinidog dros y Gymraeg wedi dweud y bydd "trefniadau trochi Cymraeg presennol" yn parhau "heb eu newid" fel rhan o gynnig dadleuol i'r cwricwlwm newydd.

Mae pryderon wedi eu codi am fwriad Llywodraeth Cymru i wneud Saesneg yn bwnc gorfodol i blant mewn cylchoedd meithrin.

Ar hyn o bryd, nid yw'r Saesneg yn cael ei chyflwyno mewn cylchoedd meithrin ac ysgolion cyfrwng Cymraeg tan fod plentyn yng Nghymru yn saith oed.

O dan y cynlluniau newydd, byddai'r Saesneg yn cael ei chyflwyno i blant tair oed.

Yn ôl y ddogfen ymgynghorol ar y cwricwlwm newydd, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun, bydd "dyletswydd ar bob ysgol a meithrinfeydd sydd wedi'u cyllido i ddysgu Saesneg fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru".

Roedd gwrthwynebwyr yn honni y byddai'r cynnig yn tanseilio blynyddoedd o waith i drochi plant yn y Gymraeg, gyda'r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn dweud y byddai'r cynlluniau'n "ergyd farwol i addysg Gymraeg".

Ond wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, na fydd yn rhaid i gylchoedd meithrin newid y modd y maen nhw'n gweithio o dan y cynlluniau newydd.

'Adborth yn hanfodol'

Yn y siambr ddydd Mercher, fe ofynnodd AC Plaid Cymru Sian Gwenllian os mai cynllun Llywodraeth Cymru yw gwneud Saesneg yn bwnc gorfodol i blant mewn meithrinfeydd Cymraeg.

Dywedodd Ms Morgan y bydd y "trefniadau trochi Cymraeg presennol - y rhai sy'n cael eu darparu gan y Mudiad Meithrin, er enghraifft - yn parhau heb eu newid fel rhan o'r cwricwlwm newydd".

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi'i hymrwymo i'r dull o drochi ac "na fydd rhaid i gylchoedd meithrin newid y modd y maen nhw'n gweithio".

Image caption Wrth lansio'r Papur Gwyn ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams bod y newidiadau arfaethedig yn "uchelgeisiol a phellgyrhaeddol"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Mercher: "Mae trochi cyfrwng Cymraeg yn gynnar yn ddull hynod o bwysig o sicrhau bod plant yn gallu dod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ac yn eu tro yn ddwyieithog.

"Bydd yn nodwedd allweddol o ganllawiau a'r cwricwlwm drafft a gyhoeddir ym mis Ebrill.

"Bydd hyn yn nodi manylion a disgwyliadau, gan gynnwys sut bydd y trefniadau presennol yn parhau. Mae adborth ar bob agwedd ar y Papur Gwyn yn rhan hanfodol o'r broses ddiwygio."

Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru, Bethan Lewis:

Mae'n anodd cysoni'r hyn mae gweinidogion yn dweud yn gyhoeddus a'r hyn sydd yn ddu a gwyn.

Yn y Papur Gwyn sy'n cyflwyno cynlluniau'r llywodraeth ar gyfer cyfraith newydd fel sail i'r cwricwlwm mae yna sôn am ddyletswydd ar bob ysgol a lleoliad meithrin i addysgu Saesneg, a hynny'n orfodol.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud na fydd hynny'n ymarferol yn atal cylchoedd meithrin rhag parhau i drochi plant yn y Gymraeg.

Maen nhw'n awgrymu y bydd cyhoeddi mwy o ganllawiau maes o law yn gwneud hynny'n glir.

Yr awgrym yw mai rhyw fath o dacluso deddfwriaethol yw gwneud Saesneg fel Cymraeg yn orfodol o dair i 16 oed.

Ond dydy'r neges ddim yn eglur - a bydd yna fwy o waith cymoni gan weinidogion i'w wneud wrth geisio ymateb i'r pryderon mae hyn wedi codi.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC