Cymru'n colli cyfleoedd ynni morol oherwydd diffyg cefnogaeth

Tidal kites graphic Image copyright Minesto
Image caption Mae technoleg "barcutiaid" Minesto yn manteisio ar ynni o'r llanw

Mae Cymru wedi colli allan ar sawl cynllun ynni morol oherwydd diffyg cefnogaeth Llywodraeth y DU, yn ôl cadeirydd y Cyngor Ynni Morol.

Dywedodd Sue Barr fod Canada a Ffrainc wedi elwa ar filiynau o bunnau o fuddsoddiad mewn cynlluniau ynni morol allai fod wedi dod i Gymru.

Yn ôl Minesto - datblygwr ynni o Sweden, sydd a'i bencadlys Prydeinig yng Nghaergybi - mae cymhorthdal i'r sector gan Lywodraeth y DU yn "absennol".

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.

'Camgymeriad enfawr i beidio manteisio'

Yn ôl adroddiad gan y Cyngor Ynni Morol, gallai'r diwydiant fod werth £76bn i'r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gyda mwy na 12,000 o swyddi yn cael eu creu erbyn 2040.

Fe fyddai Cymru yn elwa o'r ffigwr yma meddai'r adroddiad, gan bod yr arfordir yn leoliad addas i'r diwydiant.

Y perygl, medd Prif Weithredwr Minesto Dr Martin Edlund, yw y bydd Cymru'n colli cyfle euraidd i arwain yn y maes.

Sut mae cynhyrchu ynni o'r llanw yn gweithio?

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Osian Roberts o Minesto sy'n esbonio'r dechnoleg y mae'r cwmni wedi ei ddatblygu

Beth ydy cynllun cwmni Minesto?

  • Mae Minesto am osod 120 o dyrbinau arloesol i ffrwyno grym y llanw mewn pant yng ngwely'r môr oddi ar Gaergybi;
  • Gallai'r cynllun £160m gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi Ynys Môn, a darparu 100 o swyddi;
  • Mae'r cwmni wedi derbyn £11.3m o nawdd yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru er mwyn profi'r dechnoleg;
  • Maen nhw'n awyddus i fwrw ati yn fasnachol - ond yn dweud bod angen addewid o gymhorthdal gan Lywodraeth y DU yn gyntaf.

'Potensial' yng Nghymru

Ers 2017, mae cynlluniau o'r fath wedi gorfod cystadlu am gytundebau arian cyhoeddus yn erbyn technolegau aeddfetach fel ffermydd gwynt yn y môr, gan fethu a denu cymhorthdal o ganlyniad.

Erbyn hyn mae cwmnïau tebyg sy'n arloesi mewn ynni llanw a thonnau yn troi cefn ar y DU, meddai Dr Edlund.

"Mae 'na brosiectau allai fod wedi'u hariannu yn y DU yn mynd i Ganada, Ffrainc a rhanbarthau eraill. A'r gwledydd rheini yn gweld cyfle i achub y blaen o ran arwain yn y maes," meddai.

"Os edrychwch chi ar botensial ynni llanw yng Nghymru gallai fod yn ddiwydiant glo newydd - fyddai'n para am byth."

"Fe fyddai'n gamgymeriad enfawr i beidio manteisio ar hyn."

Image caption Os nad yw Cymru'n manteisio ar gyfleoedd ynni, byddan nhw'n cael eu "hallforio" meddai Owain Llywelyn

Mae cefnogwyr cynlluniau llanw a thonnau yn mynnu bod angen cymysgedd o ffynonnellau trydan adnewyddadwy yn y dyfodol os yw Prydain i symud yn llwyr at ynni glan i atal newid hinsawdd,

Yng Nghymru mae dau barth arbrofi wedi'u sefydlu - oddi ar arfordir Sir Benfro ac Ynys Môn - a thros €100m mewn arian o'r Undeb Ewropeaidd wedi'u clustnodi i helpu'r diwydiant i ffynnu.

'Gall Cymru fod yn dempled'

Yn ôl Owain Llywelyn, llefarydd ar ran y Sefydliad Syrfeiwyr Brenhinol a darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, "mi allai Cymru fod yn dempled i nifer o wledydd drwy'r byd i gyd, gyda thipyn bach o ffydd ac ewyllys da".

Mae'n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddangos ffydd yn y diwydiant er mwyn sicrhau buddsoddiad preifat, yn enwedig wrth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Does dim dwywaith fod y byd yn un cystadleuol - ac os nad ydy Cymru mynd i gymryd y cyfleoedd yna allwch chi fod yn sicr y byddan nhw'n cael eu hallforio heb unrhyw fudd o gwbl i Gymru."

Image caption Dywedodd Cai Ladd bod her "enfawr" yn ein hwynebu o ran ynni

Mae eraill yn dadlau y dylid blaenoriaethu gwynt a solar - sydd wedi gweld y gost o'u hadeiladu a'u gweithredu yn gostwng yn ddramatig yn ystod y degawdau diwethaf, o gofio bod y cymhorthdal sy'n cael ei dalu i helpu prosiectau ynni yn cael ei ychwanegu at filiau cwsmeriaid ar hyn o bryd.

Ond yn ôl Dr Cai Ladd, o Ysgol Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor, mae'n bwysig cofio y cafodd y technolegau hynny gymorthdaliadau breision yn y dyddiau cynnar i'w helpu i ddatblygu.

"Mae'n rhaid i ni symud draw i dechnoleg cynaliadwy, y'n ni wedi buddsoddi lot mewn melinau gwynt yn y gorffennol felly mae'n bwysig bod hynny dal yn bolisi cryf [i Lywodraeth y DU] yn y dyfodol.

"Mae 'na her enfawr yn eu hwynebu [o ran ynni], yn enwedig wrth i ni weld technoleg ynni niwclear yn cael ei ganslo mewn llefydd fel Wylfa B."

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb, tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod yn bryd i Lywodraeth y DU edrych "o ddifrif ar ddichonoldeb cynlluniau technoleg forol yng Nghymru".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol