Cyhuddo tad a mab o Abertawe o gadw dyn fel caethwas

Llys Ynadon Abertawe Image copyright Google

Mae tad a mab o Abertawe wedi ymddangos o flaen llys wedi'u cyhuddo o gadw dyn arall fel caethwas am dros ddwy flynedd.

Mae Anthony Howard Baker, 48 oed a Harvey Baker, 19, hefyd yn wynebu chwe chyhuddiad o achosi gwir niwed corfforol i'w dioddefwr honedig.

Fe blediodd y ddau yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn yn llys Ynadon Abertawe.

Dywedodd Abul Hussain ar gyfer yr erlyniad fod y ddau wedi cadw'r dioddefwr honedig sy'n 20 oed fel caethwas am ddwy flynedd a'i ddefnyddio fel gweithiwr.

Fe gafodd y ddau ddyn eu cadw yn u ddalfa cyn iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu'r De fod y dioddefwr honedig yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty a'i bod yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion a gwasanaethau arbenigol.

Pynciau Cysylltiedig