'Y gwir yw nad ydym ni'n cofio Tryweryn o gwbl'

Yr arwydd wedi ei dreiglo
Image caption Un o baentiadau cynharach y slogan ger Llanrhystud

Wedi i rywun baentio'r enw 'Elvis' dros slogan eiconig Cofiwch Dryweryn ar ochr yr A487 ger Llanrhystud, cafwyd ymateb chwyrn gan lawer oedd yn teimlo fod y weithred yn sarhad ar ddarn o graffiti sydd erbyn hyn yn cael ei gyfrif yn gofeb genedlaethol i foddi pentref Cymraeg Capel Celyn yn 1965.

Ond mae gan rai farn wahanol am y 'fandaliaeth'.

"...dwi'm yn siwr am lefel y ffys wir," meddai'r academydd y Dr Huw Williams ar Twitter.

Ychwanegodd fod y ffaith bod y wal yn cael ei phaentio nawr ac yn y man yn rhan o ddefod "sy'n dda inni"

"Yn anffodus chi'n methu peintio nôl y cymunedau sy'n parhau i ddadfeilio ledled Cymru; naturiol bod yn dawedog am bethau sy'n anodd, siŵr o fod."

Er yn cydnabod yr angen am symboliaeth mae Huw Williams yn dweud mai "da byddai sianelu'r angerdd at bethau llai symbolaidd hefyd..."

Image copyright Twitter

Yn ôl Bethan Mair, golygydd llyfrau a sylwebydd teledu, dydy pobl Cymru ddim yn 'cofio Tryweryn' yn ymarferol, graffiti ai peidio.

"Ydi, mae'r fandaliaeth yn ofnadwy," meddai ar ei thudalen Facebook, "na, does gan rai pobl ddim parch; byddai, mi fyddai gwneud hynny i'r Banksy'n cael llawer mwy o sylw.

"OND mae'n hawdd gresynu at fandaleiddio darn o 'fandaliaeth' - llawer mwy anghyffyrddus yw gresynu at bolisi cynllunio Cyngor Gwynedd, neu'r ffaith fod Mynytho'n cael ei hysbysebu fel Upper Llanbedrog gan asiantwyr tai. Bod pentref fel Pontrhydyfen, oedd yn lle Cymraeg 40 mlynedd yn ôl, wedi llithro o'n gafael.

"Bod Cymro'n gallu byw yng Nghlynnog Fawr heddiw heb fod yr un siaradwr Cymraeg yn byw yn y tai sydd o'i gwmpas.

"Y gwir yw nad ydym ni'n cofio Tryweryn o gwbl, neu fasen ni ddim yn gadael i hyn ddigwydd bob dydd, ymhob twll a chornel."

Cafodd graffiti 'Cofiwch Dryweryn' ei baentio yn y lle cyntaf yn y 1960au gan y diweddar ysgolhaig Meic Stephens yn fuan wedi boddi Capel Capel.

Mae graffiti wedi ei baentio dros y gwreiddiol sawl gwaith ers hynny.

Image caption Graffiti Aberfan ar y wal yn 2008

Cafodd ei adfer yn 2010 a hefyd yn 2008 pan baentiwyd "Anghofiwch Dryweryn" ar y wal - geiriau gafodd eu canu gan y band Y Ffug yn y gân Cariad Dosbarth Canol Cymru hefyd.

Yn 2015 ychwanegwyd y geiriau Cofiwch Aberfan i'r graffiti a chyn hynny roedd rhywun wedi sgrifennu'r enwau Bev a Mike arni.

Mae'r slogan gwreiddiol yn ôl ar y wal bellach wedi i griw ifanc fynd ati i'w adfer.

"Rhaid cofio fod hwn yn fwy na graffiti," meddai un o'r paentwyr Elfed Wyn Jones, ar raglen Taro'r Post.

"Fod hwn yn nodweddiadol o'r chwedegau, fod y darn o waith yma yn cyfleu mwy neu lai y teimlad a'r boen Gymraeg oedd wedi codi yn y chwedegau pan foddwyd Tryweryn.

"Dim ryw lun bach ar y wal ydi hwn, mae hwn yn rhan o'n hanes ni fel cenedl rwan ac mae difrodi'r gwaith yma fel cael gwared o ran o Gymru - rhan o'r teimlad Cymraeg, rhan rydyn ni angen ei warchod fel rhan o'n hanes," meddai gan ddweud bod angen gwneud yn siŵr nad yw hyn byth yn digwydd eto.

Ond doedd un arall o ymatebwyr Taro'r Post, David Griffiths o Lanllyfni, ddim yn gweld unrhyw bwynt mewn ailbaentio'r graffiti.

"Unwaith ydach chi wedi difrodi rhywbeth fel'na - dio ddim yr un paent," meddai.

"Roedd y person sgwennodd o am y tro cyntaf... oedd o'n neud o yn ei wylltineb, yn ei dempar ei hun efo'r pŵer tu nôl iddo fo. Ond mae'r hogiau yma'n baentio fo rŵan mewn dwy noson, dim dyna be' ddigwyddodd o pan gafodd o ei baentio'r tro cynta'.

"Mae 'run fath â tasa gynnoch chi hen ddresal Gymraeg a tasach chi'n malu hi. Tasach chi'n ailbuldio hi, dim hen ddresal Nain sydd gynnoch chi wedyn naci?"

Dywedodd Adam Phillips o fudiad Balchder Cymru ei fod wedi bod o'r farn yn y gorffennol bod rhwydd hynt i unrhyw un wneud be fynnon nhw gyda graffiti, ond mae wedi newid ei feddwl.

"Ers talwm o'n i'n meddwl os mae rhywun eisiau fandaleiddio fo, os mae rhywun eisiau gwneud rhywbeth, gown nhw wneud achos mae'n achosi rhyw fath o deimlad, a graffiti ydi graffiti.

"Mae pobl yn ail-greu dros y gwaith yma o hyd... ond yn meddwl amdano fo rŵan a gwrando ar bawb yn siarad dwi'n meddwl, na, efallai dylen ni wneud rhywbeth am hwn."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ar ôl i Elvis ddisodli Cofiwch Dryweryn, Sara Huws sy'n trafod pryd mae graffiti'n troi'n gofeb ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru.

Mae llawer yn sôn am warchod y graffiti fel cofeb genedlaethol, rhywbeth roedd y diweddar Meic Stephens ei hun am ei weld hefyd.

Ond mewn erthygl ar wefan nation.cymru mae Ifan Morgan Jones yn galw am godi cofeb barhaol ar lan cronfa ddŵr Tryweryn. Mae'r cerflunydd John Meirion Morris eisoes wedi creu cerflun bychan o'i weledigaeth ar gyfer cofeb o'r fath sy'n darlunio aderyn yn codi o'r llyn.

Mae Wogan Jones ar Twitter yn awgrymu y fod cynllun bwriadol tu ôl i baentio dros Cofiwch Dryweryn.

"Pe bai Saunders, Valentine a DJ o gwmpas heddiw, beth fydden nhw'n gwneud i drio tanio cenedlaetholdeb Cymry dof i weithredu? Fandaleisio cofeb #CofiwchDryweryn efallai?" meddai.

Image copyright Twitter

Pynciau Cysylltiedig