Cynllun tai yn 'hybu mewnlifiad', medd ymgyrchwyr iaith

tai

Mae ffrae yn corddi yn y gorllewin ynglŷn â chynlluniau am filoedd o dai newydd a'r effaith fyddai hynny'n ei gael ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Mae'r cynllun sy'n cael ei ystyried gan Sir Gaerfyrddin yn cynnwys codi 10,000 o dai erbyn 2033.

Ond dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod yn "strategaeth sy'n hybu mewnlifiad".

Fodd bynnag, dywed Pennaeth Cynllunio'r sir bod "diogelu, gwella a hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac asedau, gwead cymdeithasol a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw'r sir" yn un o brif amcanion y Cynllun Datblygu Lleol.

Bydd cyfnod ymgynghori ar y cynllun datblygu yn dod i ben ddydd Gwener, 8 Chwefror, ac mae targed Sir Gaerfyrddin yn cynnwys codi 1,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021.

Mae'n ofynnol i bob cyngor sir yng Nghymru gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol, cynllun sy'n penderfynu faint o dai newydd ddylai gael eu hadeiladu, ac ym mha ardaloedd, dros gyfnod o 15 mlynedd.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn anhapus, gan ddweud fod y nod o 10,000 o dai yn Sir Gâr erbyn 2033 deirgwaith yn fwy nag amcangyfrif Llywodraeth Cymru o'r angen am 3,000.

Bydd y strategaeth yn "penderfynu holl ddyfodol ein cymunedau lleol am y ddegawd nesaf a mwy", yn ôl Bethan Williams, Ysgrifennydd Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro.

"Eto i gyd, yma yn y sir lle bu'r dirywiad mwyaf o siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, nid oes unrhyw asesiad o effaith y strategaeth ar yr iaith a chymunedau Cymraeg.

"Rhaid cynllunio'n awr ar gyfer y Gymraeg oherwydd y bydd unrhyw asesiad o effaith polisïau unigol ar yr iaith yn y dyfodol ond yn ymdrech i gyfyngu ar y difrod a fydd.

"Dylai cryfhau'r Gymraeg fod yn sail i'r strategaeth o'r cychwyn."

Dywedodd y gymdeithas hefyd fod y cyfnod ymgynghoriad yn "annilys gan fod y strategaeth wedi ei phenderfynu ymlaen llaw".

Image caption Bethan Williams: "Nid oes unrhyw asesiad o effaith y strategaeth ar yr iaith"

"Nonsens" yw hynny, yn ôl cadeirydd pwyllgor cynllunio Sir Gaerfyrddin, Alun Lenny, sydd wedi cyhuddo'r gymdeithas o fod yn gyfeiliornus.

"Mae nifer o aelodau bwrdd gweithredol y cyngor wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd gyda Chymdeithas yr Iaith yn ystod y ddwy flynedd diwethaf," meddai.

"Rydym hefyd wedi bod yn cwrdd ac yn trafod gyda phob cyngor cymuned a chyngor thref yn y sir.

"Mae 10,000 sydd yn y cynllun yn gysylltiedig gyda'r swyddi ni am greu.

"Os 'y ni am gadw ein pobl ifanc yn ein cymunedau ac am ddenu teuluoedd yn ôl i Sir Gâr mae'n rhaid darparu gwaith a thai ar eu cyfer."

Image caption "Dyma'r cynllun cyfalaf mwyaf o'i fath o ran cynghorau Cymru", yn ôl Mr Lenny

Yn ôl Mr Lenny, mae'r cyngor sir am sicrhau fod datblygiadau mewn ardaloedd gwledig yn "ateb galw lleol".

Ychwanegodd: "Mae'r sir am wario £260m ar brosiectau dros gyfnod o bum mlynedd er mwyn cael adfywiad, dyma'r cynllun cyfalaf mwyaf o'i fath o ran cynghorau Cymru."

Parhau i asesu'r effaith

Mae pob cyngor yng Nghymru yn gorfod cyflwyno fersiwn o Gynllun Datblygu Lleol ymhen dwy flynedd a bydd yn rhaid i'r cynllun terfynol gael ei gymeradwyo gan arolygydd cynllunio annibynnol.

Yn ôl Pennaeth Cynllunio Sir Gaerfyrddin, Llinos Quelch, mae fersiwn drafft o'r cynllun yn ceisio "darparu lefel gytbwys o dwf ar gyfer cymunedau'r sir gan ddarparu cartrefi - gan gynnwys tai fforddiadwy - a chyfleoedd am swyddi".

"Mae'n ceisio cyflawni dyheadau cymdeithasol ac economaidd y cyngor sir fel y nodir yn ei strategaeth gorfforaethol.

"Mae'r effaith ar yr iaith Gymraeg wedi cael ei hasesu, a bydd yn parhau i gael ei hasesu, drwy ein Harfarniad Cynaliadwyedd a'r Asesiad Amgylcheddol Strategol."

Dywed Ms Quelch mai un o brif amcanion y Cynllun Datblygu Lleol yw "diogelu, gwella a hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac asedau, gwead cymdeithasol a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw'r sir".

Pwysleisiodd y byddai'r "holl sylwadau a gwrthwynebiadau" o'r cyfnod ymgynghori, sy'n dod i ben ddydd Gwener, yn cael eu hystyried wrth lunio'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.