Adran Dau: Casnewydd 0-1 Milton Keynes Dons

Casnewydd Image copyright Getty Images

Roedd gôl hwyr yr eilydd Chuks Aneke i Milton Keynes Dons yn ddigon i drechu Casnewydd yn Rodney Parade nos Fawrth.

Fe gafodd y ddau dîm gyfleoedd yn yr hanner cyntaf gyda Jamille Matt yn mynd yn agos at gôl i'r tîm cartref.

Er i Gasnewydd daro'r traws fwy nag unwaith yn yr ail hanner, Aneke lwyddodd i wneud y gwahaniaeth wrth rwydo ar ôl i Joe Day arbed ergyd Jake Hesketh.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn y 15fed safle yn Adran Dau, wyth pwynt o safleoedd y gemau ail-gyfle.

Bydd gêm nesaf yr Alltudion yn eu gweld yn croesawu Manchester City i Rodney Parade yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.