Merch o Geredigion yn diolch i'w mam am eni ei babi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Merch o Geredigion yn diolch i'w mam am eni ei babi

13 Chwefror 2019 Diweddarwyd 06:48 GMT

Fe adawodd Emma Miles ei swydd yn archfarchnad y Co-op yn Llanbed er mwyn mynd i fyw at Tracey ac Adam ger Coventry yng nghanolbarth Lloegr i gael bod yn agos i ysbyty arbenigol oedd yn gofalu am y broses o'i pharatoi i fod yn fam fenthyg (surrogate) i'w merch.

Naw mis yn ddiweddarach, fe gafodd Evie Siân Emma Smith ei geni yn pwyso 7 pwys 7 owns.