Ceisio llofruddio mewn ysgol: Cadw bachgen yn y ddalfa

Ysgol Uwchradd Eirias Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn

Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o geisio llofruddio disgybl mewn ysgol uwchradd yn Sir Conwy.

Bu'n rhaid i'r disgybl gael triniaeth ysbyty ar ôl y digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn ddydd Llun.

Fe wnaeth y bachgen ymddangos yn Llys Ieuenctid Llandudno ddydd Mercher wedi'i gyhuddo o un cyhuddiad o geisio llofruddio a thri chyhuddiad o fod â chyllell mewn man cyhoeddus.

Bydd yn cael ei gadw mewn canolfan i droseddwyr ifanc nes ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 13 Mawrth.

Does dim modd cyhoeddi enw'r bachgen oherwydd ei oed.