'Un hen daid wedi gyrru'r llall i foddi'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Un hen dad-cu wedi gyrru'r llall i foddi mewn pwll glo'

14 Chwefror 2019 Diweddarwyd 06:52 GMT

Bydd cymunedau o gwmpas pentref bach glanmor Landshipping yn dod ynghyd nos Iau i gofio am y drychineb lofaol waethaf yn hanes Sir Benfro, union 175 mlynedd ar ôl y digwyddiad.

Cafodd 40 o lowyr eu lladd pan lifodd dwr i mewn i lofa Garden Pit, oedd yn ymestyn allan dan wely afon Cleddau Ddu.

Y gred yw bod yr ifancaf, Joseph Harts, yn 4 oed. Roedd 26 o'r 40 wnaeth foddi o dan 18 oed.

Roedd hen, hen, hen dad-cu Mark Cole, James Cole, yn reolwr y pwll ar y diwrnod. Cafodd perthynas arall iddo, James Davies, ei foddi yn y drasiedi.