Y Bencampwriaeth: Leeds 2-1 Abertawe

Dan James Image copyright Athena Pictures
Image caption Roedd Dan James bron â symud i Leeds o Abertawe fis diwethaf

Colli oedd hanes Abertawe yn erbyn Leeds yn y Bencampwriaeth nos Fercher.

Roedd goliau gan Pontus Jansson a Jack Harrison yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 2-1 i'r tîm cartref yn Elland Road.

Er i'r ymwelwyr rwydo cic o'r smotyn hwyr - diolch i'r eilydd Oli McBurnie - doedd hynny ddim yn ddigon i sicrhau pwynt a fyddai wedi bod yn un gwerthfawr.

Mae'r canlyniad yn gadael yr Elyrch yn y 12fed safle, tra bod Leeds yn dychwelyd i frig y gynghrair.