Pam daeth y Ddraig Goch yn faner genedlaethol Cymru?

Ar 23 Chwefror 1959, cafodd baner y Ddraig Goch ei chymeradwyo fel baner swyddogol Cymru.

Ond sut a pham daeth y ddraig i fod yn symbol i Gymru? Aeth Cymru Fyw i ymchwilio:


Yn 1959, cyhoeddodd Henry Brooke, y Gweinidog dros Faterion Cymreig, orchymyn gan y frenhines yn datgan mai baner y ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd a ddylai gael ei chyhwfan mewn adeiladau Llywodraethol yng Nghymru.

Ond roedd symbol y ddraig wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer cyn hynny.

Yn yr oesoedd cynnar roedd y ddraig yn un o symbolau milwrol y Rhufeiniaid a daeth yn symbol cyffredin i frenhinoedd a thywysogion.

Cafodd ei defnyddio ym Mrwydr Hastings yn 1066 gan fyddin Harold, brenin Lloegr, wrth ymladd yn erbyn y Normaniaid.

Chwedl y ddwy ddraig

Yn y nawfed ganrif fe wnaeth y mynach o Gymru, Nennius, ddisgrifio brwydr rhwng draig goch y Brythoniaid a draig wen y Sacsoniaid yn Ninas Emrys, ger Beddgelert mewn llyfr o'r enw Historia Brittonum (Hanes Prydain). Y ddraig goch sy'n ennill.

Ar ôl hyn mae'r stori'n cael ei hadrodd mewn chwedlau am y dewin Myrddin gafodd eu rhoi ar gof a chadw gan glerigwr o'r enw Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif. Mae sôn amdani hefyd yn chwedl Lludd a Llefelys yn y Mabinogi.

Roedd beirdd yn defnyddio'r ddraig yn aml i ddisgrifio'r tywysogion Cymreig fel ffordd o ddangos pa mor arwrol oedden nhw ac roedd gan Owain Glyndŵr faner wen â draig aur arni.

Y Tuduriaid

Ond yn ôl yr hanes baner Cadwaladr ap Cadwallon, Brenin Gwynedd a'r olaf o frenhinoedd y Brythoniaid, oedd y ddraig goch yn wreiddiol a Harri Tudur ddaeth â hi i amlygrwydd pan ddaeth yn frenin Lloegr.

Roedd Harri eisiau dangos ei fod yn ddisgynnydd i Cadwaladr, ac felly'n dod o deuluoedd brenhinol y Cymry a'r Brythoniaid, felly fe fabwysiadodd ei faner fel arfbais.

Yn ystod teyrnasiad ei fab, Harri VIII, roedd y ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd yn aml i'w gweld ar longau'r Llynges Frenhinol.

Ond diflannodd y ddraig goch fel yr arwyddlun brenhinol pan ddaeth oes y Tuduriaid i ben.

cymru

'Y ddraig goch ddyry cychwyn'

Yna, yn 1807, fe gafodd y ddraig goch ar dwmpath gwyrdd ei mabwysiadu fel arwydd lun ar gyfer Cymru.

Yn 1953 ychwanegwyd 'Y ddraig goch ddyry cychwyn' fel arwyddair i'r faner. Daw'r lllinell o gywydd gan Deio ab Ieuan Ddu, bardd o'r bymthegfed ganrif oedd yn dod o Langynfelyn, Ceredigion.

Cais gan Orsedd y Beirdd ac eraill a arweiniodd at y cyhoeddiad yn Chwefror 1959 mai'r ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd - heb arwyddair - oedd baner genedlaethol swyddogol Cymru.

Y Ddraig Goch yw'r unig faner o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n rhan o Faner yr Undeb.

Mae gan rai gwledydd eraill anifeiliad ar eu baner hefyd, fel yr eryr ar faneri Albania a Mecisco, a'r condor yn Ecwador a Bolifia. Ond o holl wledydd y byd, dim ond Cymru a Bhutan sydd â llun draig ar eu baneri.

Hefyd o ddiddordeb: