Achos Tredegar Newydd: Un yn euog o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae un o'r tri diffynnydd yn achos llofruddiaeth David Gaut wedi cael ei ganfod yn euog o lofruddio ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Er i Ieuan Harley, 23 oed ac heb gartref sefydlog, bledio'n ddieuog i lofruddio a gwyrdroi cwrs cyfiawnder, cafodd ei ganfod yn euog o'r ddau gyhuddiad yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafodd Mr Gaut ei drywanu dros 150 o weithiau wedi i'w gymydog ddarganfod iddo gael ei ryddhau o'r carchar am ladd plentyn yn yr 1980au.
Cafwyd David Osborne, 51 oed o Dre Elliott, yn ddieuog o lofruddiaeth a dynladdiad, wedi iddo gyfaddef i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd y rheithgor eu cynghori eisoes i ganfod Darran Evesham, 47 oed o Dredegar Newydd, yn ddieuog o lofruddiaeth yn sgil diffyg tystiolaeth.
Fodd bynnag, cafodd ei ganfod yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder, wedi iddo wadu'r cyhuddiad.
'Dinistrio eitemau damniol'
Roedd Mr Gaut wedi symud i'r fflat drws nesaf i Osborne, yn Nhredegar Newydd, wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Roedd Mr Gaut wedi dweud iddo fod yn y carchar am ladd milwr, ond cafodd ei gymdogion hyd i'r gwir wedi iddynt chwilio'i enw ar y rhyngrwyd.
Clywodd y llys i Mr Gaut gael ei ddenu i gartref Osborne cyn cael ei drywanu i farwolaeth gan Harley.
Defnyddiodd Harley gyllyll a sgriwdreifar i ymosod ar Mr Gaut, gan achosi anafiadau mor ddifrifol na chafodd unrhyw luniau eu dangos i'r rheithgor.
Dywedodd yr erlynydd Ben Douglas-Jones QC i'r tri dyn "chwarae rhan wrth symud y corff".
"Aeth y tri ati i lanhau fflat Osborne a thrio gwaredu eu dillad gwaedlyd a rhoi car ar dân, yn ôl yr erlynwyr, i ddinistrio unrhyw eitemau damniol," meddai.
Cred ymchwilwyr Heddlu Gwent i gar Peugeot 206 gael ei losgi'n fwriadol.
Treuliodd y rheithgor pum awr yn dod i benderfyniad.
Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ym mis Mawrth, yn dilyn adroddiadau seicolegol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2018
- Cyhoeddwyd8 Awst 2018