Cyflenwr offer Rolls Royce i greu 23 o swyddi newydd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni yng Nghonwy sy'n creu rhannau ar gyfer ceir Rolls Royce a chwmnïau eraill i greu 23 o swyddi newydd.
Fe fydd safle Consort Precision Diamond yn ehangu dros gyfnod o bum mlynedd, gyda chefnogaeth £200m gan Lywodraeth Cymru.
Bydd nifer y gweithwyr y safle yn cynyddu i 170.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates, bod angen i gwmnïau gymryd mantais o'r cymorth sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw wynebu Brexit.
Dywedodd Mr Skates: "Mae Consort Precision Diamond yn allforio yn eang i farchnadoedd y tu allan i'r UE, gan olygu ei fod mewn sefyllfa gryfach i ddelio gyda'r newidiadau a'r heriau a ddaw gyda Brexit.
"Hoffwn annog unrhyw fusnes yng Nghymru i ddefnyddio ein hystod eang o gymorth a chyngor ar allforio fel bod modd iddynt roi eu hunain yn y sefyllfa orau bosib i lywio'r daith o'n blaenau."
Daw'r cyhoeddiad yr un wythnos ac ymgyrch y Llywodraeth i annog busnesau i edrych ar y cymorth sydd ar gael wrth wynebu Brexit.