Dau begwn o'r byd rygbi

  • Cyhoeddwyd
Ken a Paul olaf

Mae'r ddau o Gaerfyrddin, yn aelodau o'r un clwb rygbi ac yn chwarae safle'r bachwr. Ond tra bod un yn paratoi i chwarae o flaen torf o 74,500 mae'r llall yn ffodus o gael 250 o gefnogwyr. Dyma brofiad dau chwaraewr sy'n bodoli ar begynau gwahanol iawn yn y byd rygbi.

Bore Llun, ac mae tîm Cymru'n cyfarfod yn eu canolfan hyfforddi ym Mro Morgannwg.

Mae'n 7.30 ac wythnos brysur o'u blaenau yn paratoi at y gêm fawr yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Nid sgrymio a thactegau sy'n eu hwynebu nhw gyntaf, ond y glorian.

"Ni'n gweld beth yw'n pwysau ni bob bore, a faint o gwsg 'da ni'n cael, a sut oedd y cwsg," meddai Ken Owens.

"Wedyn ni'n gwneud gwaith sgrinio gyda'r physio i weld sut ma'r cyhyrau, sut ma'r corff yn symud a gwneud pethau gwahanol o ran gwaith stretchio i wneud yn siŵr bod ni'n barod ar gyfer gwaith ymarfer. Unwaith mae hwnna wedi ei wneud, ni'n cael brecwast."

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,
Ken Owens yn herio amddiffynwyr Awstralia

Y Scarlet o Gaerfyrddin ydi'r bachwr sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau i Gymru erbyn hyn. Roedd hefyd yn rhan o daith Y Llewod i Seland Newydd yn 2017.

Er ei fod wedi hen arfer â'r byd rygbi proffesiynol, mae'n gyfarwydd iawn â'r gêm amatur hefyd.

Fe gychwynnodd ei daith i dop y pyramid rygbi gyda chlwb Carmarthen Athletic ac fel 'aelod am oes' mae'r cysylltiad dal yn gryf.

"Ma' cefnder fi yn gapten ar yr ail dîm, ma' ffrindiau fi gyda'r clwb, a tad fi yw llywydd y clwb felly fi dal yno mor aml â fi'n gallu.

"Ma'n bwysig achos nhw ydi'r bobol sydd 'di roi'r cyfle i fi fod ble y' fi nawr."

Un arall gyda chysylltiad clòs â'r clwb ydi Paul Gravell - bachwr tîm cyntaf Carmarthen Athletic.

Ac fel Ken Owens mae ei ddiwrnod gwaith yntau'n dechrau'n gynnar hefyd.

Ffynhonnell y llun, LLUN: Sue Bows
Disgrifiad o’r llun,
Paul Gravell yn herio amddiffynwyr Abergwaun

Am chwech y bore mae'n gadael ei gartref yng Nghydweli i deithio awr i'w waith yn Hwlffordd i drwsio ceir - ac fel amatur, rhaid i'r rygbi ddod yn ail i ennill ei fara menyn.

"Mae'n hectic ar ddiwrnod ymarfer. Rwy'n dod i mewn ar ôl gwaith, newid, gweld fy mab am tua hanner awr ac wedyn fyny i ymarfer erbyn saith.

"Rwy' adra wedyn o gwmpas 8.30-9 ac wedyn yn cael rhywbeth i fwyta.

"Roedda ni'n arfer cael bwyd gyda'n gilydd yn y clwb ar ôl ymarfer, ond mae rhai o'r bois yn gweithio'n gynnar yn y bore ac angen mynd adre, felly mae hwnna wedi dod i ben."

Ffynhonnell y llun, LLUN: The Vale Resort
Disgrifiad o’r llun,
Canolfan hyfforddi tîm rygbi Cymru yn The Vale Resort, Bro Morgannwg

Draw yn y byd rygbi proffesiynol, a'r ffin mor denau rhwng ennill a cholli, mae bwyd yn rhan bwysig o'r paratoi ac arbenigwr maeth yn helpu'r chwaraewyr i fwyta'r pethau iawn.

Ken Owens: "Mae rhai bois angen bwyta lot i gadw pwysau 'mlaen, ond does dim angen i fi wneud felly dwi'n tueddu i beidio bwyta gymaint. Fyddai'n bwyta mwy tua diwedd yr wythnos i gael y calorïau mewn yn barod am y gêm."

Mae gan sgwad Cymru ddwy neu dair sesiwn hyfforddi bob dydd, ac mae'r diwrnod gwaith hefyd yn cynnwys sesiynau codi pwysau, amser yn y siambr rhew, dyletswyddau'r wasg, trafod tactegau gyda'r hyfforddwyr a chadw llygad ar y gwrthwynebwyr.

"Mae geno ni bedwar boi sy'n gweithio llawn amser yn dadansoddi pob tîm ni'n chwarae, ac mae 'na software ar y cyfrifiadur lle ni'n clicio ar un peth a bydd popeth ni mo'yn yn dod lan.

"Ni'n gallu gweld fideos a gwybodaeth am chwaraewyr eraill, gweld sesiynau ymarfer ni - beth bynnag chi mo'yn gweld mae o yno i chi.

"Ni'n gwisgo GPS a heart rate monitors i ymarfer ac felly'n gallu gweld dwyster ymarfer. Ma'r agwedd gwyddonol wedi dod fwy a fwy pwysig."

Ac mae hynny'n wir i raddau yn y gêm amatur hefyd yn ôl Paul Gravell.

"Mae 'na fenyw - mam un o'r bois - mae hi'n tynnu lluniau a fideos yn rhai o'r gemau ac weithiau pan ni'n ymarfer.

"Mae hi'n rhoi nhw ar grŵp Facebook felly bod y bois i gyd yn gallu eu gweld nhw a ni wedi edrych nôl ar rhai gemau ac analysio i weld lle i wella."

Gyda thorf o 74,500 yn llenwi Stadiwm Principality, cynulleidfa enfawr yn gwylio ar y teledu a llygaid barcud y sylwebyddion yn craffu ar bopeth, mae Ken Owens o dan bwysau i berfformio ar y lefel uchaf yn ystod gêm.

Rhwng 100 a 250 fydd yn gwylio Paul Gravell - a dau ohonyn nhw fydd ei fam, a'i fab dwyflwydd oed.

Meddai: "Weithiau rwy'n gweithio ar fore'r gêm - felly ma angen mynd i Hwlffordd, gweithio a dod nôl i gael y bws i'r match.

"Ond rwy'n chwarae'n well weithiau fel yna. Os dwi ddim yn gweithio ac wedi cael bore diog efo'r hogyn bach mae'n cymryd pump i 10 munud i fi ddechrau gweithio'n iawn ar y cae."

Yn y byd proffesiynol, does dim llawer o deithio ar fore'r gêm ond mae nhw'n trafeilio yn gyson.

"Unwaith ti'n camp Cymru ti'n hala rhan fwyaf amser lan yng Nghaerdydd a nôl a mlaen ar ddyddiau bant, ac mae gemau i ffwrdd a theithiau dramor," meddai Ken Owens.

"Pan ni'n chwarae 'da'r Scarlets ni'n teithio bob yn ail wythnos, bant i'r Eidal neu Iwerddon neu Alban neu hyd 'noed De Affrica nawr yn y gynghrair sydd 'da ni."

Ond er gwaetha'r gwahaniaeth, yr un ydi'r gêm yn y bôn - 15 yn erbyn 15 yn ceisio ennill a mwynhau'r byd rygbi.

Ac ar bob lefel o'r gêm, mae'r un traddodiadau yn parhau.

Ffynhonnell y llun, LLUN: Sue Bows

"Mae'r clubhouse yn dda, mae un neu ddau o sponsors 'da ni a ni'n mynd fewn ar ôl gêm i gael bwyd mewn lounge wahanol," meddai bachwr Carmarthen Athletic.

"Ni gyd yn mwynhau cael sgwrs a ni'n cael lot o gyn-chwaraewyr yn troi fyny i gefnogi hefyd."

Un ohonyn nhw yw Ken Owens - ond fydd o ddim yno'r dydd Sadwrn yma meddai.

"Mae'r elfen gymdeithasol dal yna, er mai gwaith yw e. Byddwn ni'n cael cinio ar ôl y gêm efo bois Lloegr a chael cwrw ar ôl unrhyw fuddugoliaeth a ma' hynny'n bwysig i fedru ymlacio.

"Mae values y gêm yn eithaf tebyg o ran y gêm amatur, yr ysbryd ma'r gêm i fod i gael ei chwarae ynddo. A ma' hynny'n bwysig ac mae yn yno ar bob lefel o'r gêm."

Lluniau gan: Sue Bows, Undeb Rygbi Cymru a Getty.