Pro14: Caeredin 17-19 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Lloyd WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd cais Lloyd Williams yn ddechrau ar dro ar fyd i'r Gleision yn ystod y gêm

Roedd hi'n fuddugoliaeth agos i Gleision Caerdydd yn erbyn Caeredin oddi cartref yn Stadiwm BT Murrayfield nos Sadwrn.

Yn yr hanner cyntaf, sgoriodd Nathan Fowles gais cynnar i'r Albanwyr, gyda Viliame Mata yna'n dilyn gydag ail gais.

Fodd bynnag, gyda symud Jason Harries oddi ar y fainc i'r cae i chwarae yn erbyn ei hen dîm, daeth chwa o egni newydd i chwarae'r ymwelwyr.

Galluogodd Harries Lloyd Williams sgorio'r gais gyntaf i'r Gleision, ac aeth yntau yn ei flaen i sgorio dwy gais yn ystod yr ail hanner a chipio'r fuddugoliaeth.

Mae'r Gleision felly'n symud i'r trydydd safle yn nhabl Adran A.