Iawndal i reolwr wedi ymosodiad parti gwaith Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Molly PhillipsFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Molly Phillips nad oedd yn teimlo'n ddiogel wedi'r digwyddiad a bod dim dewis ond gadael ei swydd

Mae rheolwraig bar a gafodd ei thagu gan gydweithiwr yn ystod parti Nadolig eu cyflogwr wedi cael dros £6,600 mewn iawndal.

Roedd Molly Phillips yn anymwybodol am gyfnod byr wedi i'r prif gogydd Nathan Webb afael ynddi wrth ei gwddf yng Nghlwb Cameo Y Rhath yng Nghaerdydd ar 1 Ionawr 2018.

Yn ôl Miss Phillips, 24, fe wnaeth cyfarwyddwyr cwmni Pontcanna Pub Company Ltd wfftio'i phryderon wedi'r digwyddiad a pharhau i gyflogi Mr Webb, 33.

Fe enillodd achos o ddiswyddo annheg yn erbyn ei chyflogwr ym mis Rhagfyr ar ôl dweud nad oedd yn teimlo'n ddiogel yn y gweithle ac felly â dim dewis ond ymddiswyddo.

Bydd Miss Phillips yn derbyn £6,659 o iawndal, ond mae'r Barnwr Alison Frazer wedi gwrthod cais i dalu costau cyfreithiol.

Dywed Heddlu De Cymru bod ymchwiliad i'r achos yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Pontcanna Pub Company Ltd
Disgrifiad o’r llun,
Doedd Miss Phillips ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd yn y parti nes iddi edrych ar luniau CCTV

Doedd Miss Phillips ddim yn gallu cofio beth oedd wedi digwydd yn y parti pan gafodd ei chludo i'r ysbyty dan amheuaeth ei bod wedi cael strôc.

Ond fe glywodd tribiwnlys yn Llys Ynadon Caerdydd ei bod wedi edrych ar luniau CCTV a gweld ei hun yn cael ei thagu.

Roedd y lluniau'n ei dangos yn ceisio atal Mr Webb rhag ei dal gyda'i freichiau'n dynn o amgylch ei gwddf.

'Chwerthin trwy'r cyfan'

Dywedodd wrth y tribiwnlys: "Rwy'n cwympo'n anymwybodol yn ei freichiau, mae'n fy ngollwng, rwy'n taro 'mhen yn erbyn fridge, ac mae e'n chwerthin drwy'r cyfan."

Clywodd y gwrandawiad bod ei cheg ar un ochr fel petae wedi'i barlysu erbyn iddi gyrraedd yr ysbyty y diwrnod canlynol a bod staff meddygol o'r farn bod ei hanafiadau "wedi eu hachosi gan ddiffyg ocsigen neu niwed i'r nerfau".

Aeth at yr heddlu ym mis Mawrth, ac fe gafodd Mr Webb ei arestio ym mis Mai.

Fe ymddiswyddodd cyn diwedd Mai gan honni bod cyfarwyddwyr y cwmni wedi rhoi'r mater o'r neilltu, er iddi ddweud bod hi'n anodd iddi barhau i weithio yno gyda Mr Webb.

Ond fe ddywedodd un o'r cyfarwyddwyr, Huw Davies, mewn datganiad i'r tribiwynlys: "Roedd Molly yn mynnu nad oedd hi eisiau i ni gymryd camau yn erbyn Nathan. Roedd popeth a wnaethon ni, neu a wnaethon ni ddim, gyda chytundeb llwyr Molly,"