Pennu dyddiad dechrau achos marwolaeth siop sglodion

  • Cyhoeddwyd
Mavis BranFfynhonnell y llun, Heno

Mae dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer dechrau'r achos yn erbyn dyn 70 oed o Sir Gaerfyrddin sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei wraig yn y siop sglodion roedd y ddau yn berchen arni.

Bu farw Mavis Bran, 69 oed, yn Ysbyty Treforys ar 29 Hydref - chwe diwrnod ar ôl cael llosgiadau difrifol yn ystod digwyddiad yn siop sglodion Chipoteria yn Hermon.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe fe gafwyd cadarnhad y byddai'r achos yn erbyn Geoffrey Bran yn dechrau ar 7 Mai.

Chafodd dim ple ei gyflwyno ar ran y diffynnydd ac mae disgwyl i'r achos bara rhwng pythefnos a thair wythnos.