Tu ôl i'r dweud: O godi'n blygeiniol i fachlud yr haul

Rhwng codi'n y bore a syrthio i gysgu gyda'r hwyr, rydyn ni'n defnyddio nifer o ddywediadau unigryw sy'n ymwneud ag amser y dydd. Ond wyddoch chi beth yw eu tarddiad?

Codi'n blygeiniol Image copyright CasarsaGuru

Codi'n blygeiniol

Os am wneud y mwyaf o'r dydd mae'n rhaid 'codi'n blygeiniol' medd rhai. Daw'r gair o 'plygain' sydd fel arfer yn cael ei gysylltu â'r Nadolig a chanu Plygain.

Yn eglwysi'r Oesoedd Canol roedd 'na sawl offeren yn ystod y dydd ac roedd y weddi cyntaf yn cael ei chynnal am hanner nos, ond weithiau ar doriad y wawr hefyd.

Math o weddi foreol neu wasanaeth gyda charolau yn gynnar ar fore Nadolig yw'r traddodiad canu Plygain ac mae'r traddodiad hwnnw'n parhau yn ardal Sir Drefaldwyn hyd heddiw.

Daw'r gair 'plygain' o'r Lladin pullicantiō ('caniad y ceiliog') sydd, fel y gwyddom yn gynnar iawn yn y bore!


Ar gloch

Yr un tarddiad sydd i'r gair 'cloch' yn Gymraeg a clock yn Saesneg sef hen air Lladin clocca sy'n golygu cloch. Rydym felly yn edrych ar 'gloc' i weld faint o'r 'gloch' yw hi!

Sylwch mai 'o'r gloch' yr ydym yn ei ddweud (erbyn hyn mae rhai pobl yn dweud 'o gloch') ond amrywiad ydi hynny ar yr hen ddweud gwreiddiol 'ar y gloch'. Mae'r ymadrodd yn dod o'r cyfnod pan nad oedd gan bobl glociau yn eu tai ac roedd eglwysi'n canu cloch neu glychau i gyhoeddi amser offeren.

Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru fe glywir 'ar y gloch' o hyd. Yng nghanolbarth Ceredigion yr ymadrodd ar lafar oedd 'beth ar gloch yw hi?'

oriawr Image copyright dramalens
Image caption "Beth ar gloch yw hi?"

Gefn ddydd golau

Mae'r term 'gefn ddydd golau' y cael ei ddefnyddio pan yn cyfeirio at ganol y dydd, adeg mwyaf golau'r diwrnod pan fo'r haul ar ei uchaf ac mae ei darddiad yn dod o ystyr y gair 'cefn' ei hun.

Mae gan y gair 'cefn' yn Gymraeg dri ystyr. Y cyntaf fel back yn Saesneg e.e cefn llaw, gardd gefn neu asgwrn cefn.

Yr ail yw esgair mynydd neu fryn ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn enwau llefydd fel Cefnddwysarn, Cefn-coed-y-Cymer, Cefn Sidan a Chefn Meiriadog.

A'r trydydd ystyr yw 'canol' neu 'berfedd' sydd yn rhoi'r ymadrodd cyffredin 'cefn gwlad' i ni.

Mae'r ymadrodd 'cefn ddydd golau' felly yn golygu canol y dydd, hanner dydd fel mae 'gefn drymedd nos' yn golygu oriau tywyllaf y nos neu berfedd y nos.


Hefyd o ddiddordeb:


Prynhawn

I ni heddiw, y cyfnod rhwng amser cinio a gyda'r nos yw'r 'prynhawn' ac nid yw hynny wedi newid rhyw lawer dros y canrifoedd. Yn wreiddiol, y gair oedd 'prydnawn' ('pryd' + 'nawn'). Rydym yn gyfarwydd â'r gair 'pryd' i olygu 'adeg' neu 'amser' ond mae ystyr 'nawn' wedi ei anghofio.

'Nawn' oedd nawfed awr y dydd, sef yn ail hanner y dydd, tua 3 o'r gloch. Yn y byd eglwysig roedd y diwrnod wedi dorri'n gyfnodau o deirawr ac 'awr nawn' oedd yr enw ar un o'r cyfnodau hynny.

Fel yn achos sawl gair arall yn Gymraeg mae'r 'd' wedi diflannu ar lafar gan adael 'prynawn' neu 'prynhawn'.


Cau pen y mwdwl

Image copyright ollikainen
Image caption Mydylau mewn cae yn aros i gael eu casglu - roedd angen 'cau pen y mwdwl' ar ddiwedd y dydd

I fyd amaeth tro 'ma. Mwdwl yw tomen neu bentwr o wair wedi ei gasglu adeg y cynhaeaf, mydylau yw mwy nag un. Ers talwm pan nad oedd peiriannau i help ffermwyr wrth eu gwaith, roedd yn rhaid gadael y mydylau allan yn y caeau ar ddiwedd diwrnod o waith a'u casglu'n ara' deg dros gyfnod o ddyddiau.

Rhag ofn i'r tywydd droi, a glaw yn difetha'r cnwd, roedd ffermwyr yn clymu topiau'r mydylau'n mewn ffordd arbennig. Dyma oedd gwaith olaf y dydd fel arfer a dyna pam ein bod yn dweud 'cau pen y mwdwl' i olygu gorffen y gwaith yn daclus.

Mewn rhai ardaloedd maen nhw'n dweud 'rhoi pen ar y mwdwl', sef yr arfer gan rai ffermwyr o glymu cadach neu ddarn o ddefnydd fel cap ar y mwdwl, ond yr un yw'r ystyr.


Y machlud

Hen air Cymraeg am le i guddio yw 'achludd'. Mae o hefyd y golygu mynd o'r golwg a hyd yn oed bedd neu farwolaeth. Mae 'ym' ar ddechrau gair yn golygu gwneud rhywbeth ohono chi'ch hun (e.e, 'ymolchi' yn hytrach na golchi). Mae 'ymachludd' felly yn golygu bod yr haul yn 'cuddio'.

Mae'r 'dd' ar ddiwedd y gair wedi ei golli ar lafar ac wedi troi'n 'd' (fel ddigwyddodd yn y gair 'gormod' - 'gormodd' oedd y gair gwreiddiol).

Erbyn heddiw mae 'ymachlud' wedi mynd yn 'Y machlud'.

Yn y bôn felly, ystyr 'machlud haul' yw marwolaeth yr haul neu'r haul yn mynd i guddio.

Image copyright steved_np3
Image caption Diwedd y dydd, a'r haul yn 'ymachludd' dros fynyddoedd Bannau Brycheiniog

Pynciau Cysylltiedig