Pam fod marciau fel symbol yr Orsedd ar gerrig drwy'r wlad?

Os nad ydych chi wedi gweld un o'r rhain o'r blaen rydych chi wedi bod yn agos iawn at un sawl tro, heb yn wybod!

Ym mhob pentref, tref a dinas yng Nghymru bron iawn, mae'r marc unigryw hwn i'w weld ar garreg yn rhywle gyda rhai'n haws i'w gweld na'i gilydd.

Mae'n debyg iawn i symbol Gorsedd y Beirdd, y Nod Cyfrin, sydd i'w weld ar bob Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol.

Postyn Llawddyn Image copyright Adrian Dust
Image caption Postyn Llanwddyn

Ond does wnelo'r peth ddim byd â'r Orsedd na'r Eisteddfod 'na 'chwaith unrhyw beth Celtaidd!

Marc ydi o a ddefnyddir gan syrfewyr i wybod pa mor uchel, uwchben lefel y môr ydi rhywle, neu rhywbeth. Yr enw swyddogol ydi Meincnod Arolwg Ordnans (Ordnance Survey Benchmark).

Y broblem wrth geisio cofnodi bod rhywle hyn a hyn uwch lefel y môr yw bod lefel y môr yn newid o hyd. Felly mae'n rhaid cael un lle swyddogol a chymharu pob man arall â hwnnw.

Dociau Lerpwl yn gosod y sail

O 1844 ymlaen defnyddiwyd marc ar bolyn oedd yn nodi uchder y llanw yn Noc Fictoria, Lerpwl. Dyna, ar y pryd oedd yn cael ei ystyried fel y llinell sail swyddogol, yr Ordnance Datum Leveldrwy Brydain gyfan a bu'r asiantaeth mapio, yr Arolwg Ordnans, yn mesur pa mor uchel neu isel oedd lleoliadau eraill drwy Brydain.

Ond oherwydd nad oedd y dechnoleg ar gael yn y 1800au i fod yn gywir gyda'r mesuriadau, penderfynwyd yn 1921 i ailedrych ar y system o fesur.

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
Image caption Symbol yr Orsedd, y Nod Cyfrin, ar Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a enillwyd gan y prifardd Gruffudd Owen. Mae'r logo'n golygu 'Yng ngwyneb haul a llygaid goleuni.'

Ym mhentref Newlyn, Cernyw rhwng 1 Mai, 1915 a 30 Ebrill 1921 cofnodwyd lefel y môr ar yr awr, bob awr i ffendio cyfartaledd lefel y môr a nodi'r canlyniad fel Ordnance Data Newlyn. Defnyddiwyd hwnnw wedyn yn lle'r hen sail swyddogol, fel man cychwyn pob mesur o uchder.

Dewiswyd Newlyn gan ei fod y lle lleiaf tebygol ym Mhrydain, yn ôl arbenigwyr y cyfnod, i dir godi neu ostwng yn naturiol (y lle lleiaf tebygol ym Mhrydain i gael ei effeithio gan blatiau tectoneg). Hefyd roedd y llanw'n gallu mynd a dod o Fôr yr Iwerydd heb gael ei effeithio gan unrhyw gorff o dir ac felly yn fwy cyson ei lefelau.

Yna aeth yr Arolwg Ordnans ati i dorri'r meincnodau a welwn heddiw ar gerrig o bob math drwy'r wlad. Torrwyd y marciau ar lefydd a fyddai'n debygol o barhau am amser hir felly maent i'w gweld yn amlach ar gorneli adeiladau fel ysgolion, capeli, eglwysi ac ar bontydd, cestyll ac yn y blaen.

Pont Cydweli Image copyright Adrian Dust'
Image caption Dyma'r marc i'w weld o hyd ar bont Cydweli

Hen hanes erbyn hyn

Mae technoleg wedi symud yn ei flaen llawer ers 1921, ac offer digidol o fesur uchder wedi disodli'r hen feincnodau. Mae dros 25 mlynedd ers i'r marc olaf gael ei dorri gan yr Arolwg Ordnans.

Dros amser, er i nifer fawr o feincnodau gael eu colli drwy ddatblygu tir, dymchwel ac ail godi adeiladau ac yn y blaen, mae tua 500,000 ohonyn nhw'n dal yn bodoli.

Efallai bod un ar wal eich tŷ chi - ewch i chwilio rhag ofn!

Image caption Wal Eglwys Llandyfrydog, Ynys Môn

Pynciau Cysylltiedig