Nôl i’r Hen Ogledd wrth i Gymru wynebu’r Alban yng Nghaeredin

Castell Caeredin Image copyright Pixabay
Image caption Ai yma roedd llys y brenin Mynyddog Mwynfawr a'r wledd cyn un o'r digwyddiadau hanesyddol enocaf mewn barddoniaeth Gymraeg?

Bydd miloedd o Gymry'n heidio i Gaeredin ddydd Sadwrn wrth i Gymru chwarae oddi cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond yn hanesyddol, efallai y gallech chi ddweud ein bod ni'n dod adref mewn rhai ffyrdd...

Daw enw prifddinas yr Alban o'r Frythoneg, sef yr hen Gymraeg, ac yma roedd teyrnas llwyth y Gododdin y cafodd y gerdd Gymraeg gynharaf ei hysgrifennu amdanynt.

Mae'r enw Edinburgh a Chaeredin yn dod o Din Eidyn, sef Caer Eidyn mewn Brythoneg - ardal oedd efallai'n perthyn i'r brenin Clydno Eiddin.

Mae'r elfen 'din' i'w gael yn Dinas Dinlle a Dinbych.

Roedd teyrnasoedd y Brythoniaid, sef cyndeidiau'r Cymru, yn ymestyn o tua'r pumed ganrif o Gymru a Chernyw drwy orllewin gogledd Lloegr heddiw i dde'r Alban - enw'r teyrnasoedd gogleddol yma oedd Elfed, Rhedeg, Gododdin ac Ystrad Clud (Strathclyde).

Image copyright Wikipedia
Image caption Map o'r Hen Ogledd o wefan Wikipedia

Tra bydd chwaraewyr Cymru yn paratoi at y frwydr fawr yn Murrayfield, yn y flwyddyn 600 roedd cerdd Y Gododdin yn sôn am baratoadau Brythoniaid dan eu harweinydd Mynyddog Mwynfawr i ymladd yn erbyn yr Eingl ym mrwydr Catraeth.

Yn eitha' tebyg i gefnogwyr rygbi cyn y gêm, fe wnaeth y milwyr baratoi at y frwydr drwy wledda ac yfed - a chael eu trechu o ganlyniad.

Mae'r arbenigwyr yn credu mai yn Catterick, ger Richmond yn ngogledd swydd Efrog, y digwyddodd y frwydr - rhag ofn eich bod eisiau ymweld ar eich ffordd adref o'r Alban!

Yn ôl y gerdd gan y bardd Aneirin cafodd bron i bob un o'r milwyr eu lladd yn y frwydr a daeth yr hen deyrnas Frythonaidd dan reolaeth brenin Eingl-Sacsonaidd Northumbia.

Diflannodd teyrnasoedd y Brythoniaid yn yr hen ogledd.

Fe barhaodd fersiwn o'r iaith yn ardal Cumbria gogledd Lloegr hyd at y 13eg ganrif.

Neuadd Mynyddog Mwynfawr?

Felly os ydych chi yng Nghaeredin a digon o amser i'w sbario cyn y gêm oes na olion o'r hen hanes yma'n dal yno?

Heddiw mae'r Royal Mile yn dangos statws y ddinas yn hanes yr Alban dros y canrifoedd.

Mae'n arwain at Gastell Caeredin ac mae rhai'n dweud mai ar y safle amddiffynnol yma roedd llys Mynyddog Mwynfawr.

Theori arall ydy ei fod yn Bo'ness i'r gorllewin o'r brifddinas ar lannau'r Firth of Forth neu yn Tref Pren, sef Traprain Law oddi ar yr A1 i'r dwyrain, ger East Linton.

Y tu allan i'r castell ar Castle Rock mae cerflun o'r Albanwr William Wallace - yr arwr a bortrewyd gan Mel Gibson yn Braveheart.

Mae'r gofeb fawr iddo yn Stirling i'r gogledd, lle curodd Wallace y Saeson 600 mlynedd ar ôl brwydr Catraeth.

Image copyright Buster Brown
Image caption Mae cofeb Wallace yn edrych dros safle Brwydr Bannockburn

Mae'r enw Wallace yn dod o'r un lle â'r enw Wales - daw'r ddau enw o'r hen Saesneg am "ddieithryn" - wylisc.

Enghreifftiau eraill o'r un gair yw'r enw Wallach, y Walŵniaid yng Ngwlad Belg a chnau walnut.

Mae rhai olion o'r iaith Frythonaidd wreiddiol yn dal i fodoli yma, fel ym mhentref Cramond ar gyrion Caeredin - tarddiad Cymraeg sydd i'r enw - caer yng nghanol yr afon - sef yr afon Almond.

Os hoffech chi daith bach hanesyddol yn dilyn y rygbi mae'n bosib mynd i'r gaer neu i weld y pentref - lle mae'r Almond yn mynd i mewn i'r Firth of Forth.

Edrych yn gyfarwydd?

Os ewch chi dros Bont Dean sy'n ymestyn dros y Water of Leith mae'n bosib bydd y strwythur yn eich atgoffa o olygfa yng ngogledd Cymru - Thomas Telford, y peiriannydd a ddyluniodd Bont Menai a phont ddŵr Pontcysyllte, wnaeth adeiladu'r bont hon hefyd.

Fel mae'n digwydd roedd Robert Stephenson, peirannydd Pont Britannia, wedi astudio ym Mhrifysgol Caeredin am chwe mis hefyd.

Cafodd cymdeithas Gymreig Caeredin, sy'n galw ei hun yn Gymdeithas Cymry Dineidyn, ei ffurfio yn 1920 ac yn 2007 adroddodd papur bro Taf Elái am Catrin Middleton o Gaerdydd a'i ffrindiau yn sefydlu cymdeithas Gymraeg ym Mhrifysgol Caeredin.

Ond mae adroddiad ym mhapur newydd Baner ac Amserau Cymru yn 1884 yn sôn am gyfarfod cyntaf Undeb Cymdeithasol Efrydwyr Cymreig Edinburgh yn y ganrif gynt gyda Dr Alfred Daniell, Cymro oedd yn darlithio yn Ysgol Feddygol Caeredin, yn cadeirio a Mihangel ap Iwan o'r Bala yn chwarae'r delyn deires.

Butch Cassidy

Roedd Mihangel ap Iwan yn fyfyriwr meddygaeth yng Nghaeredin ac yn fab i Michael D Jones, sefydlydd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Ymfudodd Mihangel a'i frawd, Llwyd, i Batagonia a chafodd Llwyd ei saethu'n farw gan fandits yn ei siop yn Esquel yn 1890. Yn ôl y chwedloniaeth Butch Cassidy and the Sundance Kid oedd yn gyfrifol.

Ond mae eraill yn dweud mai Americanwyr o'r enw Wlison ac Evans oedd yn gyfrifol mewn gwirionedd, er fod Butch Cassidy wedi ymgartrefu yn ardal Esquel. Ond stori arall ydi honno!

Nôl yn Murrayfield, mae'r llyfrau hanes yn dangos mai'r dorf fwyaf maen nhw wedi ei chael yno yw 104,000 ar 1 Mawrth 1975 - record byd tan 1995.

Y gwrthwynebwyr y dydd hwnnw oedd Cymru, ac fe gurodd yr Alban o 12-10. Gobeithio y bydd diweddglo gwell i'r gêm brynhawn Sadwrn!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig