Disgwyl eira a gwyntoedd cryfion
- Cyhoeddwyd

Rhybudd o eira yn y gogledd a gwyntoedd cryfion yn y De
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gellid disgwyl eira a gwyntoedd cryfion yng Nghymru fore Sul.
Mae yna rybudd melyn am eira yn siroedd Wrecsam, Dinbych, Powys, Gwynedd a rhannau o Gonwy o oddeutu 03:00 fore Sul.
Mae yna hefyd rybudd o wynt cryf ar gyfer arfordir y De o oddeutu 01:00.
Mae disgwyl i'r tywydd wella ar ôl 11:00 fore Sul.
Fe all y tywydd gwael effeithio ar ffyrdd, rheilffyrdd ac mae'n bosib na fydd rhai llongau yn gallu croesi.
Mae'n bosib hefyd y bydd rhai cartrefi yn colli eu cyflenwad trydan oherwydd gwyntoedd cryfion.