Her i Gymru droi 100% at ynni adnewyddadwy erbyn 2035

Fferm wynt Carno ym Mhowys Image copyright Getty Images

Gallai Cymru ddarparu 100% o'i hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 o dan gynllun newydd "uchelgeisiol" gan arbenigwyr polisi.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi mwy o'i chyllideb i'r sector ynni gwyrdd.

Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu hefyd y gallai 20,150 o swyddi gael eu creu os fydd y targed yn cael ei gyrraedd.

Yn ôl y prif weinidog, Mark Drakeford, mae'r adroddiad yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gyda'i chynlluniau carbon isel.

Cyllid 'annigonol'

Gallai'r ymdrech hefyd ychwanegu gwerth £7.4bn i economi Cymru erbyn 2035 a chael effaith sylweddol ar allu'r wlad i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd, yn ôl yr arbenigwyr.

Mae'r cynllun 10 pwynt yn benllanw tair blynedd o ymchwil, a bydd yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa o wleidyddion ac aelodau o'r diwydiant yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Image caption Yn ôl Shea Buckland-Jones mae troi at ynni adnewyddadwy yn hwb yn gymdeithasol ac economaidd

Dywedodd Shea Buckland-Jones o'r sefydliad y gallai ynni adnewyddadwy "ffurfio rhan allweddol o hunaniaeth Gymreig" yn y dyfodol, ond bod angen mwy o fuddsoddiad.

Er bod rheolaeth dros wahanol agweddau o bolisi ynni'r wlad wedi'i rhannu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU, dywedodd fod yr ymchwil yn dangos bod nifer o'r pwerau sydd eu hangen yn nwylo gweinidogion Bae Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae ychydig dros 2% o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i glustnodi ar gyfer ynni, sy'n "annigonol i wneud cynnydd gwirioneddol" yn ôl yr adroddiad.

Mae'r ymchwil yn annog gweinidogion i gyhoeddi cyfnod o 12-18 mis o "ysgogiad economaidd carbon isel" ar unwaith, wedi'i ariannu naill ai drwy eu cyllideb neu bwerau benthyca newydd.

Byddai modd defnyddio'r arian i ddatblygu prosiectau ynni sy'n eiddo i bobl leol, gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a sicrhau bod modd trydanu cerbydau carbon isel ar draws y wlad.

'Maint yr her yn eithafol'

Mae'r datblygiadau eraill y mae'r sefydliad am eu gweld yn cynnwys:

  • Defnyddio rheoliadau cynllunio a thir cyhoeddus i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy newydd;
  • Sicrhau bod rhwng 5% a 33% o brosiectau newydd uwchlaw 5MW yn rhan o berchnogaeth leol neu gymunedol;
  • Mynd i'r afael â "diffyg gwybodaeth ac arbenigedd cyffredinol" am y sector mewn sefydliadau cyhoeddus allweddol;
  • Ymgymryd â "dull newydd radical" o edrych ar drafnidiaeth gan gynnwys cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr ar gyfer y sector;
  • Datblygu ynni morol fel gwasanaeth Cymreig arbenigol yn yr economi fyd-eang.

"Mae yna fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd," meddai Mr Buckland-Jones.

"Rwy'n credu mai un o'n negeseuon clir o'r cynllun terfynol yw bod angen arweinyddiaeth ar hyn. Mae maint yr her yn eithafol ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu."

Ysgol yn arwain y ffordd

Image caption Mae Ysgol y Bedol wedi gosod 200 o baneli solar ar do'r adeilad

Mae ysgol gynradd Gymraeg Ysgol y Bedol yn Nyffryn Aman wedi arbed tua £15,000 ar eu biliau trydan dros y pedair blynedd diwethaf ar ôl i 200 o baneli solar gael eu gosod ar do'r adeilad.

Mae'r disgyblion yn dysgu am ynni adnewyddadwy yn eu gwersi, gan ddefnyddio sgrîn sy'n dangos faint o ynni mae'r paneli'n ei gynhyrchu.

Yn ôl Eli, sy'n ddisgybl yn yr ysgol, mae eu hymdrechion i arbed ynni yn arwyddocaol.

"Mae'n bwysig oherwydd mae hinsawdd y byd yn cael effaith," meddai.

"Mae eisiau i ni neud hwn oherwydd does dim da yn dod o beidio arbed ynni."

Image caption "Does dim da yn dod o beidio arbed ynni," meddai Eli

Yn 2017 roedd 48% o ddefnydd trydan Cymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, gyda Llywodraeth Cymru am weld y ffigwr yn codi i 70% erbyn 2030.

Gwresogi adeiladau yw un o'r heriau mwyaf wrth geisio sicrhau bod ein holl anghenion ynni yn cael eu darparu drwy ddulliau gwyrdd yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn dweud y dylai gwleidyddion ganolbwyntio ar fesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau i leihau'r galw.

Mae'r arbenigwyr hefyd am weld deunydd inswleiddio gwell yn cael ei roi mewn 870,000 o gartrefi yng Nghymru a chefnogaeth i dechnolegau adnewyddadwy fel pympiau gwres.

Gallai 170,000 o bympiau gael eu dosbarthu ar draws y wlad i gyd-fynd â ffynonellau gwresogi eraill gan gynnwys canolfannau bionwy a biomas.

'Chwyldro adnewyddadwy'

Dywedodd Mr Drakeford, fydd yn annerch cynhadledd ble fydd yr adroddiad yn cael ei lansio, bod Cymru'n gwneud cynnydd da.

"Y llynedd roedd hanner y trydan gafodd ei ddefnyddio yn dod o ffynonellau adnewyddadwy," meddai.

"Mae gyda ni'r potensial i arwain chwyldro adnewyddadwy ond does dim modd i ni wneud hyn ar wahân. Mae gan bawb yng Nghymru ran i'w chwarae.

"Mae angen gweithredu ar frys i leihau ein hallyriadau carbon yn ddramatig. Yma yng Nghymru, mae newid ar y gweill.

"Ry'n ni wedi gosod targed uchelgeisiol i sicrhau bod 70% o ddefnydd trydan Cymru yn cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol